Cyfres o sgyrsiau gyda’r nos am ddim ar wyddoniaeth forol
Rydym yn falch o gyhoeddi cyfres o sgyrsiau bob pythefnos ar thema’r môr drwy gydol yr hydref..
Mae’r sgyrsiau’n cyd-fynd ag arddangosfa 'I’r Môr’ bresennol yr oriel a’r defnydd o’r oriel yn y gorffennol, ar ddechrau'r 1900au, fel canolfan ar gyfer dysgu a darlithoedd gwyddoniaeth.
Noddir y gyfres gan Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd (NRN-LCEE), menter ymchwil ledled Cymru sy’n cefnogi ymchwil rhagorol i'r rhyngweithio rhwng tir, dŵr, darparu bwyd a chynhyrchu ynni.
Dywedodd Jane Matthews, y Rheolwr Ymgysylltu ym MOSTYN:
Mae’n bleser gallu cyflwyno’r siaradwyr yma - mae'r sgyrsiau’n edrych yn hynod ddiddorol ac mae hefyd yn gyfle i bobl weld ein harddangosfeydd presennol ni ymlaen llaw.
Bydd y ddarlith gyntaf allan o chwech, 'Bywyd y tu mewn i bac rhew yn yr Antarctig a’r Arctig' gyda’r Athro David Thomas, yn cael ei chynnal nos Iau 27 Medi am 7.30pm gyda’r oriel ar agor a lluniaeth ar gael o 7.00pm ymlaen.
Mae’n syniad da archebu lle ar 01492 868191 neu drwy alw heibio’r oriel.
Gwybodaeth am Rwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd (NRN-LCEE)