Cyhoeddi enillwyr gwobrau MOSTYN Agored 21

delwedd Sarah Entwistle a Richard Wathen

Cyhoeddi enillwyr gwobrau MOSTYN Agored 21

Sarah Entwistle yn ennill y Brif Wobr, Richard Wathen yn ennill Gwobr Arddangosfa


Prif Wobr £10,000: Sarah Entwistle
Gwobr Arddangosfa: Richard Wathen

Mae MOSTYN, Cymru DU yn falch iawn o gyhoeddi’r ddau artist sydd wedi ennill gwobr MOSTYN Agored wrth i’r wobr ddathlu ei phen-blwydd yn 21 eleni.

Mae’r dewisiadau o artistiaid i Agored 20 Mostyn yn cynrychioli'r cynnydd parhaol ym mhroffil rhyngwladol y galeri gyda chyfranogwyr wedi eu lleoli yn UK, Austria, Belgium, Czech Republic, Germany, Portugal, Spain, USA and Australia.

Yn ogystal a hyn, caiff wobr o £1,000 i'w gyflwyno i 'Gwobr y Gynulleidfa', sef y rhai a dderbynir y nifer fwyaf o bleidleisiau gan ymwelwyr yn ystod yr arddangosfa. 

Mae gwobr £10,000 Agored MOSTYN 21 wedi ei dyfarnu i Sarah Entwistle am ei gwaith gosodiadau cerfluniol ‘You can make your own balance sheet’ a ‘Do not attempt to break the seal’. 

Mae gwobr £10,000 Agored MOSTYN 21 wedi ei dyfarnu i Sarah Entwistle am ei gwaith gosodiadau cerfluniol ‘You can make your own balance sheet’ a ‘Do not attempt to break the seal’. 
Mae’r ddau ddarn sy’n cael eu harddangos yn rhan o brosiect parhaus sy’n canolbwyntio ar sut mae’r artist wedi rhoi ffurf newydd ar eitemau ei Thaid diweddar a chyd-bensaer, Clive Entwistle [1916-1976]. Yn llwyfan i gyfres o wrthrychau cerameg ystumiol mae dau dapestri wedi’u gwehyddu â llaw. Mae cyfansoddiadau arluniol y gwehyddu a dyluniad arwyneb y gwrthrychau cerameg wedi’u benthyg o nodiadau graffeg yr archif; crafiadau pensil, blotiau inc, strociau brws gyda motiffau’r sffêr wedi’u hailadrodd, côn ddwbl, saeth, croes, tic a marc cwestiwn.

Dywedodd Hannah Conroy – Curadur Gwadd Agored MOSTYN 21:
“Mae gan arferion Sarah Entwistle sawl lefel o gymhlethdod sy’n creu gwaith cyfoethog iawn. Yn esthetig, mae gwaith Sarah yn benthyg o ganonau pensaernïaeth, crefft a dylunio. Yn gysyniadol, ceir sylfaen hanesyddol a brys personol i gysylltu â pherthynas nid yw hi erioed wedi cyfarfod â nhw, sydd yn ei gyfanrwydd yn gwneud ymarfer gwerth ei ddathlu.”

Dywedodd Sarah Entwistle, ar ennill y wobr:
“Mae’r gydnabyddiaeth a’r gefnogaeth i’m gwaith gan y detholwyr a gan MOSTYN wir yn rhoi egni a chadarnhad i mi. Mae derbyn y wobr nawr yn anrheg enfawr a fydd yn rhoi i mi’r modd, yr amser a’r ffocws ar gyfer fy ymarfer a’r prosiectau i ddod.”

Newydd, ar gyfer MOSTYN Agored 21, dyfernir y Wobr Arddangosfa am arddangosfa yn MOSTYN i’r artist neu'r gydweithfa y mae'r dewiswyr yn teimlo y byddent yn elwa fwyaf ar y pwynt hwn yn eu gyrfa.

Enillydd ‘Gwobr Arddangosfa’ Agored Mostyn 21 yw Richard Wathen am ei baentiadau ‘Bather’, ‘Mantled, ‘Moonbather’ a ‘Moonbather 3’. 

Mae’r pedwar o’i weithiau a ddangosir yn MOSTYN yn rhan o’r gyfres ‘Moonbathers’. Yn 2014, roedd Wathen yn cael trafferth gyda phaentiad penodol. Mewn sgwrs gymdeithasol dechreuwyd sôn am nofio yng ngolau’r lloer, rhywbeth nad oedd yn gwybod dim amdano. Ar unwaith roedd cyfeiriad i’w baentiad a dechreuodd cyfres barhaus o waith.

Dywedodd Hannah Conroy- Curadur gwadd Agored MOSTYN 21:
“Mae paentiadau Richard Wathen yn rhyfeddol. Maent yn mynegi bywiogrwydd hudolus o fewn traddodiad peintio ffurfiol. Gan fenthyg o iaith bortreadaeth, mae ganddynt ymagwedd glasurol ond yn cyflwyno canlyniad dynamig ac anesmwythol. Wrth ei ddewis ar gyfer ‘Y Wobr Arddangosfa’, roeddem yn teimlo bod llawer mwy i ymchwilio iddo yn ei ymarfer ar raddfa fwy. Roeddem yn teimlo y buasai ei waith yn berffaith ar gyfer cynulleidfa amrywiol, leol a chenedlaethol MOSTYN.”

Dywedodd Richard Wathen:
“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy newis ar gyfer ‘Gwobr Arddangosfa’ Agored MOSTYN 21. Roedd cyflwyno’r wobr hon ynghyd â’r detholwyr eleni yn rheswm mawr dros roi cynnig arni. Rwyf yn hynod gyffrous i gael y cyfle i greu sioe yn yr oriel brydferth hon. Edrychaf ymlaen at weithio gyda’r tîm yn MOSTYN a buaswn yn hoffi diolch i’r detholwyr am roi’r cyfle yma i mi. Buaswn yn hoffi hefyd llongyfarch yr holl artistiaid eraill a fu’n rhan o Agored MOSTYN 21, sioe wych!”