Cynlluniau ar gyfer ailagor MOSTYN
Siop MOSTYN ar agor o 30ain Gorffennaf, orielau ar agor o 13eg Awst 2020
Newyddion Da! Rydym wedi bod yn brysur yn gwneud cynlluniau ar gyfer ailagor fesul cam o ddiwedd mis Gorffennaf!
Mae ein tîm o staff wedi bod yn cynnal asesiadau risg llym a byddwn yn gweithredu ystod o fesurau i sicrhau y gallwn agor yn ddiogel, gydag iechyd ein staff a'n hymwelwyr ein blaenoriaeth uchaf.
Rydym yn bwriadu agor ein siop o 30ain Gorffennaf ac orielau o 13eg Awst 2020 (11yb - 4yp). Bydd manylion llawn ar gael yn fuan.
Byddwn, wrth gwrs, yn dilyn cyngor gan Lywodraeth Cymru a chyrff Iechyd y Cyhoedd ac felly gall y cynlluniau hyn newid.
I'r perwyl hwn, rydym yn falch iawn o gael marc siarter diwydiant 'Barod Amdani’ wedi'i gymeradwyo gan Visit Wales, Visit Britain, Visit England a'r sefydliadau twristiaeth cenedlaethol ar gyfer Gogledd Iwerddon a'r Alban.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi ym MOSTYN eto yn y dyfodol agos!
9 Gorffennaf 2020