Datganiad gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN, Cymru - Gwaith Paul Yore
Datganiad gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN, Cymru, UK
MOSTYN Agored 21
Dyddiadau'r arddangosfa: 13 Gorffennaf - 27 Hydref 2019
Yn ddiweddar, cafodd gwaith Paul Yore, Taste The Feeling (2018), sef tecstil wedi'i addurno ag appliqué o dameidiau o hen ffabrig a oedd yn datgan goddrychedd queer radical, ei arddangos fel rhan o Agored 21 ym MOSTYN ond cafodd eu symud yn dilyn pryderon am ddiogelwch staff MOSTYN a diogelwch y gwaith ei hun. Fe ddes i’r penderfyniad hwn ar ôl derbyn nifer o gwynion a phryderon am y canfyddiad o gasineb homoffobig a gwrth-semitiaeth a ddaeth gan nifer o’n cymunedau a’n sefydliadau partneriaethol, ac yna ymddygiad ymosodol gan rai aelodau o'r cyhoedd. Roedd rhai o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru yn yr oriel ar y pryd ac roeddent yn dystion i’r digwyddiad.
Fel Cyfarwyddwr y sefydliad, dydw i ddim eisiau i neb o fy staff, na’n hymwelwyr, fod mewn perygl o niwed, a dydw i ddim chwaith eisiau i waith yr artist gael ei ddifrodi na’i ddinistrio. Dyna fy man cychwyn i.
Nid yw’n anarferol i weithiau queer dadleuol gael eu sensro cyn hyd yn oed gyrraedd arddangosfa. Rydym mewn cyfnod o boblyddiaeth lle mae safbwyntiau radical yn cael eu hosgoi a lle mae naratifau symlach yn cael eu ffafrio. O'm rhan i, dydw i ddim yn meddwl y dylid osgoi gweithiau dadleuol. Rydym ni wedi eu harddangos yn gorffennol, ac fe wnawn ni’n hynny eto yn y dyfodol. Er ein bod ni, y tro hwn, heb dybio y gallai rhan fach o'n cynulleidfa ymateb yn negyddol, gallwn ni’n sicr ddweud na fuon ni’n nawddoglyd tuag at ein cynulleidfa. Fe wnaeth llawer mwy o bobl fwynhau a gwerthfawrogi'r gwaith nag a gwynodd amdano, a rhaid i ni gofio hyn. Yn amlwg, mae’r prawf litmws yn awgrymu bod ambell un wedi digio o achos y gwaith, a throdd y geiriau yn weithredoedd mewn byr o dro. Dyna pryd gwnes i ymyrryd. Mae celf gyfoes yn ymwneud â bywyd cyfoes, dim mwy, dim llai. Mae mynegiant diwylliannol yn un o’r pethau sy’n gwneud bodau dynol yn fodau dynol. Ac weithiau mae hyn yn arwain at gamddealltwriaeth a thensiynau.
Oes, mae iaith a thestun heriol yn y gwaith, ond nid iaith wedi’i dyfeisio yw hi; yn hytrach, iaith go iawn sy'n aml yn cael ei defnyddio yn erbyn pobl yn y gymuned queer, ac rwy'n meddwl, fel mewn llawer o symudiadau diwylliannol sy’n mynd ymlaen, mai da o beth yw hi fod artistiaid fel Paul Yore yn hawlio'r iaith honno’n ôl ac yn ei defnyddio i'w pwrpas eu hunain. Fel yr oedd Tracey Emin, rai blynyddoedd yn ôl, yn creu argraff yn y byd diwylliannol gyda’i chynrychiolaeth ddyddiadurol o rywioldeb o bersbectif benywaidd, rwy’n meddwl bod llawer o bersbectifau LGTBQAI+ yn cael eu tangynrychioli. O ran y canfyddiad o wrth-semitiaeth, petaech chi'n gweld y gwaith rwy’n credu y byddech chi’n cytuno nad dyna sydd dan sylw. Nid dim ond symbol o agenda’r dde eithafol yw'r swastica. Mae gwaith Paul Yore yn waith gwrth-gwrth-semitaidd - mae’n danseiliol, ac eto rwy’n deall y gallai fod yn agored i'w gamddehongli.
Sut mae symud ymlaen o hyn? Bydd MOSTYN yn parhau i gefnogi rhyddid mynegiant a bydd yn eiriol dros waith artistiaid o gymunedau LGBTIQA+. Byddwn ni'n parhau i drafod sut i godi ymwybyddiaeth o bersbectifau LGBTIQA+. Byddwn ni'n gwneud hynny drwy arddangos y cyfweliad pryd roedd yr artist yn trafod cyd-destun y gwaith celf. Cafodd y cyfweliad ei recordio pan lansiwyd yr arddangosfa a chafodd ei ffilmio o flaen y darn, gyda’r label gwreiddiol sy’n disgrifio’r gwaith ynghyd â datganiad ychwanegol yn esbonio pam cafodd y gwaith ei symud o'r wal a beth oedd y broses a arweiniodd at y penderfyniad hwnnw. Wnawn ni ddim cuddio'r rhesymeg, y bygythiadau, yr ofn y gallai rywbeth ddigwydd ar lefel gorfforol, a’r broses feddwl hirfaith tuag at y penderfyniad. Mae’n gyfrifoldeb arnom fel ‘tai agored’ diwylliannol i ystyried sut mae’r anesmwythyd sy'n cael ei achosi gan waith yn gallu troi’n ddadl, ac yna’n drafodaeth ynglŷn â sensoriaeth fel rhan o'r rhaglen gyhoeddus.
Rwy'n deall safbwynt Paul yn llwyr; ac mae yntau’n deall fy safbwynt innau. Ein nod yw canfod tir cyffredin i ddelio â hyn, oherwydd os nad ydym ni - yr artistiaid a’r curaduron, sef y cynhyrchwyr diwylliannol a’r sefydliadau diwylliannol - yn gallu dod o hyd i ffordd o hybu trafodaeth mewn cymdeithas, rydym ni'n siŵr o fethu cyn cychwyn. Mi wn na fydd y datganiad hwn wrth fodd pawb; ond rhoi fy safbwynt personol i yw’r ffordd orau sydd gennyf o ddweud wrth y gynulleidfa beth yw fy nheimlad i - beth yw teimladau pawb - ym MOSTYN.
Gyda pharch,,
Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN, Cymru, UK
25 Gorffennaf 2019