DATGANIAD O DDIDDORDEB

Image .

DATGANIAD O DDIDDORDEB

Rydym yn chwilio am ddylunydd/asiantaeth i adnewyddu brand MOSTYN

 

Mae MOSTYN yn oriel gelf gyhoeddus, wedi'i lleoli yn Llandudno, Cymru. Rydym yn cyflwyno celf gyfoes ryngwladol eithriadol ac yn anelu at gynrychioli safbwyntiau amrywiol ar y byd a bywyd cyfoes.

Yn dilyn ymgynghoriad â’n cynulleidfaoedd, staff a'n rhanddeiliaid, mae MOSTYN wedi nodi wrth inni ddod allan o’r pandemig fod angen i ni gyfathrebu ein pwrpas a’n cwmpas yn gliriach - fel elusen, fel oriel gelf gyfoes gyhoeddus gyda chyrhaeddiad byd-eang, o fewn ein rhanbarth ac o fewn Llandudno. Dros y misoedd diwethaf rydym wedi creu datganiadau brand, cenhadaeth a gweledigaeth newydd sydd wedi’u gwreiddio yn ein hymchwil cynulleidfa ond sydd hefyd wedi’u creu mewn ymgynghoriad â’n tîm staff a'n rhanddeiliaid.

Mae angen i’r ymagwedd newydd hon gael ei hamlygu nawr trwy bresenoldeb brand sydd wedi’i adnewyddu, sy’n cael ei ddarparu mewn ffordd gwbl hygyrch a chynhwysol, gan ddefnyddio amrywiaeth gynyddol o ddulliau fel y gallwn gyrraedd mwy o’n cynulleidfaoedd gyda neges gliriach bod MOSTYN yno iddyn nhw.

Rydym felly’n ceisio datganiadau o ddiddordeb gan ddylunwyr ac asiantaethau dylunio yn y DU sydd â phrofiad o weithio yn y sector diwylliannol, sydd â dull ymarferol o weithio, sy'n gyfarwydd â gweithio yn Gymraeg a Saesneg ac yn gallu cyflawni o fewn ein hamserlenni. Mae rhagor o wybodaeth am ein gofynion, amseriadau a sut i gyflwyno eich datganiad o ddiddordeb ar gael ar ein gwefan yma.