
Eisiau rhoi cynnig ar grefft newydd?
Gweithdai creadigol i oedolion
Bydd ein rhaglen o Weithdai Creadigol i Oedolion yn eich ysbrydoli â chyflwyniad i dechneg / sgil benodol. Dan arweiniad artist / gwneuthurwr proffesiynol a fydd yn eich tywys a'ch cefnogi wrth gynhyrchu darn gorffenedig o waith i fynd i ffwrdd ar ddiwedd y dydd.
Yn dechrau mis Gorffennaf, mae ein gweithdai sydd i ddod yn cynnwys: cyflwyniad i dorluniau leino, cyflwyniad i beintio gydag olew, ymyrryd â’r pwythau, gweithdy breichled arian gweadol a gwehyddu basged llafrwynen.
Darparir yr holl ddeunyddiau a ni fydd angen unrhyw brofiad blaenorol. Mae manylion llawn ar bob gweithdy a gwybodaeth archebu ar gael ar ein tudalen Digwyddiadau
[Llun: Francesca Colussi]
13 Mehefin 2018