Enillydd Gwobr Dewis y Bobl MOSTYN Agored 19

image

Enillydd Gwobr Dewis y Bobl MOSTYN Agored 19

Gethin Wyn Jones

 

Mae’n bleser gan MOSTYN | Cymru, Y DU gyhoeddi enw enillydd Gwobr Dewis y Bobl MOSTYN Agored 19. 
Yr enillydd yw Gethin Wyn Jones am ei waith Awaken From This Illusion – print pixel sy’n gorchuddio un o waliau’r oriel.

Gwahoddwyd ymwelwyr â’r arddangosfa i ddewis eu hoff waith yn yr arddangosfa, sy’n cynnwys gwaith 38 o artistiaid o bob cwr o’r byd. Pleidleisiodd mwy na 2,000 o bobl ac roedd y canlyniad terfynol yn agos, gyda dim ond wyth pleidlais yn gwahanu’r ddau ddarn o waith mwyaf poblogaidd.

Dywedodd yr artist: Mae’n grêt cael eich dewis gan y cyhoedd a bydd yr arian yn mynd tuag at offer newydd i helpu i gynhyrchu mwy o waith. Roedd arddangosfa Agored 19 ym MOSTYN yn gyfle i mi greu print pixel sy’n gweithio fel cefndir i ofod yr oriel. Mae gen i ddiddordeb yn sylw’r gwylwyr, drwy greu moment ble mae'n rhaid iddyn nhw edrych ddwywaith a chwestiynu'r hyn maen nhw’n ei weld. Rydw i eisiau iddyn nhw feddwl bod rhaid iddyn nhw edrych eto ac eto er mwyn sicrhau gwell dealltwriaeth wrth grwydro yn y gofod, yn gorfforol ac yn gysyniadol.

Mae Gethin Wyn Jones wedi dangos ei waith o’r blaen ym MOSTYN, yn 2012, ac mae’n gweithio gyda chyfryngau amrywiol, gan gynnwys gosodiadau, ffotograffiaeth a ffilm. Wrth galon ei waith mae pryder ynghylch archwilio ffotograffiaeth ar draws ystod o godau a chonfensiynau cynrychioliadol. O’r man cychwyn hwn, mae wedi datblygu diddordeb mewn rhyngweithiad lliw, cof diwylliannol ac estheteg gorfforaethol.