Ennillydd MOSTYN Agored 20

delwedd Gernot Wieland

Ennillydd MOSTYN Agored 20

Gernot Wieland yn ennill £10,000 wobr


 Rydym yn falch iawn o gyhoeddi enillydd yr 20fed gyfres o’r Mostyn Agored.

Yr enillydd yw Gernot Wieland a ddyfarnwyd gwobr o £10,000 am ei waith yn dwyn y teitl ‘Thievery and Songs, 2016’.

Datganiad gan y panel dethol :
“Safodd gwaith cyflawnedig a chymhleth Gernot Wieland allan i'r panel, yn benodol oherwydd y ffordd y mae’n creu naratif ynghylch a chyflwr dynol a sut y mae’n archwilio lleoliad yr unigolyn mewn cymdeithas.

Dywed Gernot Wieland:
Rwyf wrth fy modd fod fy ngwaith wedi ei gydnabod gan guraduron mor adnabyddus ag uchel eu parch, mae’n golygu llawer i mi. Yn aml mae fy ngwaith yn ran o broses gydweithredol a hoffwn ddiolch i’r rhai a gydweithiodd a mi ar y darn yma. Fe gefnogith y wobr yma i mi greu corff o waith newydd.

Dewiswyd Wieland allan o 27 o artistiaid arddangos a gafodd eu dethol o dros 600 o gyflwyniadau mewn ymateb i alwad- agored a ddenodd artistiaid o bedwar ban y byd. Mae’r dewis o artistiaid i’r MOSTYN AGORED 20 yn cynrychioli’r cynnydd parhaol ym mhroffil rhyngwladol y galeri gydag ymgeiswyr wedi eu lleoli yn y Wlad Belg, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Portiwgal, Yr Eidal, Swistir, Tsieina, Awstralia, UDA, DU.

Bydd Dyfarniad y Gynulleidfa, gyda gwobr o £1,000, yn cael ei chyflwyno i’r artist a dderbynith y mwyaf o bleidleisiau gan ymwelwyr o’r cyhoedd yn ystod rhediad yr arddangosfa.