FFAIR BRINTIAU Gogledd Cymru 2017 - Dyddiad cau wedi estynedig
FFAIR BRINTIAU Gogledd Cymru 2017 - galwad am artistiaid
#mostynprint #northwalesprint
Rydym yn llawn cyffro wrth gyhoeddi manylion Ffair Brintiau Gogledd Cymru gyntaf, cynhelir y ffair ar ddydd Sadwrn 11eg Tachwedd yn Oriel MOSTYN Llandudno.
Bydd Ffair Brintiau Gogledd Cymru, a drefnir mewn partneriaeth a'r Ganolfan Argraffu Ranbarthol, yn gyfle gwych i ddefnyddwyr print o'r DU gyflwyno'r gwaith i'w werthu yn oriel gyfoes a chanolfan gelfyddydau gweledol mwyaf blaenllaw Cymru.
Mae ei siop ac oriel manwerthu, gan gynnwys un ymroddedig i wneuthurwyr printiau, wedi cael eu galw'n 'lle i mynd' yng Ngogledd Cymru i brynu gwaith gan wneuthurwyr cyfoes am brisiau fforddiadwy.
Barry Morris, Rheolwr Manwerthu MOSTYN:
'Rydym wrth ein bodd i gael Ffair Brintiau gyntaf erioed ym MOSTYN. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r gorau o fyd printiau cyfoes. Bydd ymwelwyr a'r ffair yn gallu prynu celf fforddiadwy a gwreiddiol, yn uniongyrchol gan yr artistiad.'
Jim Creed, Cydlynydd y Ganolfan Argraffu Ranbarthol:
'Rydym yn teimlo'n gyffrous iawn am gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth a MOSTYN er mwyn trefnu'r Ffair Brintiau. Mae'n gyfle gwych i wneuthurwyr printiau arddangos eu gwaith mewn oriel o bwysigrwydd cenedlaethol. Yn ogystal, mae'n gyfle i weithgarwch gwneud printiau fod un fwy hygyrch trwy gynnig y cyfle i ymwelwyr holi cwestiynau, gweld arddangosiadau gwneud printiau a phrynu gweithiau celf wreiddiol.'
Mae'r ceisiadau bellach ar agor ar gyfer stondinau yn y ffair. Mae stondinau yn gyfyngedig.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau wedi estynedig at 22ain Medi 2017 am 5yp.
Os ydych chi'n argraffydd, stiwdio argraffu neu grwp cydweithredol, darganfyddwch fwy: archive.mostyn.org/print
Gallwch hefyd ffonio 01492 868191 neu e-bostiwch [email protected]
Mewn partneriaeth gyda