Ffair Brintiau Gogledd Cymru 2018

Photo: Regional Print Centre

Ffair Brintiau Gogledd Cymru 2018

Galw’r am argraffydd!

FFAIR BRINTIAU Gogledd Cymru 2018 - galwad am artistiaid

Rydym yn llawn cyffro wrth gyhoeddi manylion yr ail Ffair Brintiau Gogledd Cymru, cynhelir y ffair ar ddydd Sadwrn 10fed a dydd Sul 11eg Tachwedd 2018 yn Oriel MOSTYN Llandudno.

Bydd Ffair Brintiau Gogledd Cymru, a drefnir mewn partneriaeth a'r Ganolfan Argraffu Ranbarthol, yn gyfle gwych i ddefnyddwyr print o'r DU gyflwyno'r gwaith i'w werthu yn oriel gyfoes a chanolfan gelfyddydau gweledol mwyaf blaenllaw Cymru.

Mae ei siop ac oriel manwerthu, gan gynnwys un ymroddedig i wneuthurwyr printiau, wedi cael eu galw'n 'lle i mynd' yng Ngogledd Cymru i brynu gwaith gan wneuthurwyr cyfoes am brisiau fforddiadwy.

Barry Morris, Rheolwr Manwerthu MOSTYN: "Roeddem yn falch o'r ymateb gan yr ymwelwyr a stondinwyr yn ffair y llynedd. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gorau mewn printiau cyfoes unwaith eto eleni. Bydd ymwelwyr â'r ffair yn gallu prynu celf fforddiadwy a gwreiddiol, yn uniongyrchol gan yr artistiaid".

Jim Creed, Cydlynydd y Ganolfan Argraffu Ranbarthol: "Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio mewn partneriaeth â MOSTYN eto eleni ar ôl llwyddiant Ffair Print Gogledd Cymru'r llynedd. Mae'n gyfle gwych i wneuthurwyr printiau arddangos eu gwaith mewn oriel o bwysigrwydd cenedlaethol. Yn ogystal, mae'n gyfle i weithgarwch gwneud printiau fod un fwy hygyrch trwy gynnig y cyfle i ymwelwyr holi cwestiynau, gweld arddangosiadau gwneud printiau a phrynu gweithiau celf wreiddiol."

Mae'r ceisiadau bellach ar agor ar gyfer stondinau yn y ffair. Mae stondinau yn gyfyngedig. Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 16eg Medi 2018 am 5yp.

Os ydych chi'n argraffydd, stiwdio argraffu neu grwp cydweithredol, gellir dod o hyd i wybodaeth yma, a gellir dod o hyd i'r ffurflen gais yma. Gallwch hefyd ffonio 01492 868191 neu e-bostiwch [email protected]

 

FFAIR BRINTIAU Gogledd Cymru 2018

Dydd Sadwrn 10fed Tachwedd a dydd Sul 11eg Tachwedd 2018 10.30yb - 5.00yp

Mynediad AM DDIM

Mewn partneriaeth gyda