Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru 2019
Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru 2019
Dydd Sadwrn 9fed Mawrth 2019
#mostyncraft #nwcraft
Rydym yn llawn cyffro wrth gyhoeddi manylion yr ail Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru, cynhelir y ffair ar ddydd Sadwrn 9fed o Mawrth 2019 yn Oriel MOSTYN Llandudno.
Bydd Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru, yn gyfle gwych i gwnethurwyr o'r DU gyflwyno'r gwaith i'w werthu yn oriel gyfoes a chanolfan gelfyddydau gweledol mwyaf blaenllaw Cymru.
Mae ei siop ac oriel manwerthu, wedi cael eu galw'n 'lle i mynd' yng Ngogledd Cymru i brynu gwaith gan wneuthurwyr cyfoes am brisiau fforddiadwy.
Barry Morris, Rheolwr Manwerthu MOSTYN: "Rydym wrth ein bodd i gael y ffair crefft gyntaf erioed ym MOSTYN. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r gorau o fyd grefft gyfoes. Bydd ymwelwyr â'r ffair yn gallu prynu celf fforddiadwy a gwreiddiol, yn uniongyrchol gan yr artistiaid.
Mae'r ceisiadau bellach ar agor ar gyfer stondinau yn y ffair. Mae stondinau yn gyfyngedig. £75 yr bwrdd.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 18fed Ionawr 2019 am 5yp.
Os ydych chi'n gwneuthurwr, stiwdio neu grŵp, darganfyddwch fwy o wybodaeth yma a lawrlwythwch y ffurflen gais yma.
Gallwch hefyd ffonio 01492 868191 neu e-bostiwch [email protected]
Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru 2019
Dydd Sadwrn 9fed Mawrth 2019
Agor: 10.30yb - 5.00yp