Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru Gaeaf 2019

Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru Gaeaf 2019

Galw'r am artistiaid

Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru 2019 Dydd Sadwrn 2il Tachwedd 2019

#mostyncraft #nwcraft

Rydym yn llawn cyffro wrth gyhoeddi manylion yr ail Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru, cynhelir y ffair ar ddydd Sadwrn 2il o Tachwedd 2019 yn Oriel MOSTYN Llandudno.

Bydd Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru, yn gyfle gwych i gwnethurwyr o'r DU gyflwyno'r gwaith i'w werthu yn oriel gyfoes a chanolfan gelfyddydau gweledol mwyaf blaenllaw Cymru. Mae ei siop ac oriel manwerthu, wedi cael eu galw'n 'lle i mynd' yng Ngogledd Cymru i brynu gwaith gan wneuthurwyr cyfoes am brisiau fforddiadwy.

Barry Morris, Rheolwr Manwerthu MOSTYN: "Ar ôl llwyddiant ein ffair print a'n ffair grefft gyntaf, rydym yn gyffrous iawn i gynnal ffair arall yma ym MOSTYN.. Rydym yn edrych ymlaen at groesawu'r gorau o fyd grefft gyfoes. Bydd ymwelwyr â'r ffair yn gallu prynu celf fforddiadwy a gwreiddiol, yn uniongyrchol gan yr artistiaid.

Mae'r ceisiadau bellach ar agor ar gyfer stondinau yn y ffair. Mae stondinau yn gyfyngedig. £75 yr bwrdd.

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau 20fed Medi 2019 am 5yp.

Mae ceisiadau agored i wneuthurwyr, dylunwyr, artistiaid, stiwdios, grŵp neu fusnesau sydd ddefnyddio dulliau crefft draddodiadol neu gyfoes [e.e.. cerameg, gemwaith, gwaith metel, gwneud printiau, tecstilau, gwydr, cyfryngau cymysg, pren ac ati]. Darganfyddwch fwy o wybodaeth yma a lawrlwythwch y ffurflen gais PDF neu ffurflen gais 'Word' yma. Gallwch hefyd ffonio 01492 868191 neu e-bostiwch [email protected]

Ffair Grefft Gyfoes Gogledd Cymru 2019

Dydd Sadwrn 2il Tachwedd 2019

Agor: 10.30yb - 5.00yp

I gael y newyddion diweddaraf am ein Ffair Argraffu Gogledd Cymru sydd ar ddod i fyny yn 2020, cofrestrwch ar ein rhestr e-bost yma