Ffenestr Nadolig MOSTYN 2013

Ffenestr Nadolig MOSTYN 2013

Galw'r Creadigol
Rydym yn gwahodd cynigion am arddangosfa ffenestr Nadolig sy’n rhoi cyfle i artistiaid/dylunwyr/gwneuthurwyr i addurno dwy ffenest steil art noveau ym MOSTYN.
 
Rydym yn edrych am arddangosfa ffenest sy’n – 
  • Unigryw a thrawiadol 
  • Gyda thema dymhorol 
  • Yn ffenestr mae’n ‘rhaid ei gweld’ yn Llandudno 
  • Yn dal y llygad ac yn sbardun sgwrs
 
Ydych chi yn ddylunydd/wneuthurwr llawn dychymig a syniadau am sut i arddangos eich gwaith? 
Rydym yn gwahodd cynigion gennych ar sut y buasech yn creu arddangosfa drawiadol yn ymgorffori peth o’ch gwaith eich hun o fewn gofod o gryn faint. Mae’n rhaid i’r arddangosfa gynnwys eitemau o’ch gwaith ellir eu gwerthu, i’w gytuno gyda’r Rheolydd Manwerthu.
 
Neu oes gennych chi syniadau am arddangos nwyddau yn weledol?
Ydych chi yn unigolyn gyda syniadau creadigol a’r gallu i gynhyrchu arddangosfa drawiadol fuasai yn cynnwys nwyddau o’r siop? Rydym yn eich gwahodd i greu arddangosfa weledol drawiadol. Mae’r cyfle yma yn golygu gweithio’n agos gyda’r Rheolydd Manwerthu i benderfynnu pa eitemau o stoc sydd i’w arddangos.
 
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5.30yh 22eg Medi 2013
 
Dyddiad cyfweld a chyfle i weld y gofod: Dydd Llun, 30eg Medi 2013
 
Gosod: Cynhelir lansiad iʼr comisiwn ffenest yn Nhachwedd ac rydym yn rhagweld dau ddiwrnod gosod iʼw trefnu ymlaen llaw gydaʼr Rheolydd Manwerthu.
 
Tynnu lawr: Ionawr 6ed 2014 Bydd peth help gan staff y siop ar gyfer hyn (manylion i’w trefnu)
 
Ffi
Rydym yn cynnig ffi holl-gynnwysiedig o £1,000. Mae hyn i gynnwys yr holl ddeunyddiau a chostau cynhyrchu, teithio a chostau. Mae’n bosibl y byddwn yn gallu cyfrannu tuag at gostau teithio ar gyfer y cyfweliad (i’w drefnu gyda’r Rheolwr Manwerthu ymlaen llaw). Bydd yn ofynnol i chi allu gosod y ffenest eich hun neu gyda chymorth wedi ei dalu amdano o’ch ffi. Bydd Mostyn y cyfrannu dau ddiwrnod o gymorth technegol gyda’r gosod (mae rhain yn hyblyg – i’w trefnu gyda’r Rheolydd Manwerthu). Mae’n ofynol i’r costau tynnu lawr hefyd fod yn y ffi.
 
I Ymgeisio
Gyrrwch gynnig amlinellol (mwyafswm 500 gair), CV a hyd at 12 o luniau (jpgs) gyda ebost [email protected] Gellir ymgeisio drwy’r post drwy drefniant.
 
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu hoffech gael mwy o wybodaeth am y siop mae rhydd hynt i chi ffonio Barry Morris neu Carolyn Shingler ar 01492 868191 neu ebostio [email protected]
 
MOSTYN 12 Stryd Vaughan Llandudno Conwy LL30 1AB Ff: 01492 879201 E: [email protected] agor Mawrth – Sul: 10.30 yb – 5.00yh