Galw’r Creadigol!

Photo: Dilys Thompson

Galw’r Creadigol!

Comisiwn Ffenestr Nadolig MOSTYN

Mae prif oriel gelf gyfoes Cymru yn gwahodd cynigion am arddangosfa ffenestr Nadolig syʼn rhoi cyfle i artistiaid/dylunwyr/gwneuthurwyr i addurno dwy ffenest steil art noveau ym MOSTYN.

Ydych chi yn ddylunydd/wneuthurwr llawn dychymig a syniadau am sut i arddangos eich gwaith? Rydym yn gwahodd cynigion gennych ar sut y buasech yn creu arddangosfa drawiadol yn ymgorffori peth oʼch gwaith eich hun o fewn gofod o gryn faint. Maeʼn rhaid iʼr eitemau oʼch gwaith ellir eu gwerthu, iʼw gytuno gydaʼr Rheolydd Manwerthu.

Neu oes gennych chi syniadau am arddangos nwyddau yn weledol? Ydych chi yn unigolyn gyda syniadau creadigol aʼr gallu i gynhyrchu arddangosfa drawiadol fuasai yn cynnwys nwyddau oʼr siop? Rydym yn eich gwahodd i greu arddangosfa weledol drawiadol. Maeʼr cyfle yma yn golygu gweithioʼn agos gydaʼr Rheolydd Manwerthu i benderfynnu pa eitemau o stoc sydd iʼw arddangos.

Briff llawn a manylion ar gael yma neu e-bost: [email protected].

Dyddiad cau: 5.30yn 9fed Medi 2018.

[Llun: Dilys Thompson]