Galwad allan i berfformwyr a cherddorion 15-25 oed

GLITCH logo

Galwad allan i berfformwyr a cherddorion 15-25 oed

ar gyfer Gŵyl GLITCH ym mis Hydref

Mae Gŵyl GLITCH yn cael ei chynnal yn oriel MOSTYN yn Llandudno a’r cyffiniau rhwng 14-16 Hydref 2016, a bydd yn benwythnos anturus o ddigwyddiadau annisgwyl ac arallfydol! Bydd cerddoriaeth fyw, ffilmiau, arddangosfeydd rhyngweithiol, gweithdai, bwyd stryd a bar.

Rydym yn chwilio am gyflwyniadau gan berfformwyr a cherddorion rhwng 15-25 a fyddai’n hoffi perfformio ym MOSTYN fel rhan o raglen ein gŵyl naill ai ar ein llwyfan meic agored, neu yn yr ardal eitemau byw yn ystod penwythnos yr ŵyl. Does dim modd i ni dalu ffi am unrhyw berfformiad, ond gallwn gynnig cyfle i chi berfformio ym MOSTYN fel rhan o ddigwyddiad bywiog ac unigryw lle bydd artistiaid, cerddorion a pherfformwyr yn dod ynghyd dros benwythnos yr ŵyl.

Anfonwch eich cyflwyniadau at [email protected]

Caiff yr Ŵyl ei rhaglennu a'i chynhyrchu'n greadigol gan GLITCH, grŵp o bobl ifanc ysbrydoledig i gyd dan 25 oed o ogledd Cymru, ac mae’n argoeli y bydd yn gatalydd ar gyfer cydweithredu rhwng aelodau GLITCH, gweithwyr proffesiynol yn y celfyddydau a’r rheini sy'n cymryd rhan yn yr ŵyl.

Instagram: glitch.festival

Facebook: GLITCH

 

Mae GLITCH yn rhan o Circuit, dan arweiniad Tate gyda chyllid gan Sefydliad Paul Hamlyn.