Galwad am Gyflwyniadau
Mewn cydweithrediad â Queer Direct, ac mewn ymateb i arddangosfa Hannah Quinlan a Rosie Hastings, Yn Fy 'Stafell, mae MOSTYN yn lansio galwad am gyflwyniadau. Rydym yn gwahodd waith i’w cynnwys mewn arddangosfa rithwir o weithiau celf weledol mewn ymateb i’r thema ‘Fy 'Stafell Wely Ar-Lein’.
Mae'r berthynas â lleoedd preifat a chyhoeddus wedi newid yn ddramatig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf oherwydd y cyfnod cloi, gyda nifer o agweddau fywyd bob dydd yn digwydd o fewn preifatrwydd ystafelloedd gwely. Rydym yn eich gwahodd i rannu unrhyw fath o waith celf weledol sy'n wynebu syniadau o breifatrwydd, hunaniaeth bersonol a chynrychiolaeth.
Mae ‘Fy 'Stafell Wely Ar-lein’ ar agor i unrhyw un (oed 14+). Rydym yn annog gwaith gan gymunedau LHDT+ a'u cynghreiriaid. Am wybodaeth bellach gweler y telerau ac amodau.
Bydd gweithiau a ddewiswyd yn cael sylw ar-lein trwy wefan MOSTYN a sianeli cyfryngau cymdeithasol o fis Mawrth 2021.