LLAWN - Penwythnos Celfyddydau Llandudno
DIGWYDDIAD LANSIO
LLAWN04 a thymor gŵyl newydd ym MOSTYN
Nos Wener 23 Medi 2016 - 6.30pm ymlaen
Rydym yn falch o gyhoeddi ein 'Tymor Gŵyl' cyntaf. Tair wythnos o arddangosfeydd, digwyddiadau a chyfranogiad y gynulleidfa sy'n agor gyda lansiad LLAWN04 - Penwythnos celfyddydau Llandudno, penwythnos cyfan o ddigwyddiadau am ddim ar hyd y Promenâd ac mewn gwahanol leoliadau a llecynau ymhob cwr o Landudno. Bydd y lansiad ar y nos Wener ydy gyflwyniad perffaith i'r ŵyl, gyda chyfle i archwilio un neu ddau o'r prif leoliadau ac enghreifftiau gyffrous o waith eleni. Bydd gwaith gan ddau artist wedi'i guradu ar y cyd ym MOSTYN, a llawer o ddigwyddiadau ac ymyriadau gwych eraill o amgylch y dref. Bydd perfformiadau, gemau stryd, cerddoriaeth, creu robotiaid, dawns, celf gweledol, ffilm a'r annisgwyl - y cyfan wedi ei ysbrydoli gan y testun Cuddio/Chwilio.
Bydd MOSTYN Gallery Cafe yn aros ar agor tan 9.00yh. Archebion olaf ar gyfer prydau bwyd am 8.30yh. Argymhellir archebu bwrdd. Ffôniwch 01492 869013.