LLAWN - Penwythnos Celfyddydau Llandudno
Mae LLAWN eleni yn addo i fod allan o'r byd hwn!
Bydd arddangosfeydd celf, perfformiadau stryd a chanolfannau creadigol yn dod â lliw a hwyl i dref Llandudno dros y penwythnos o 14-16 Medi 2018.
Mae Museum of the Moon, i'w arddangos yn Eglwys St John’s, wedi teithio'r byd yn rhyfeddi gynulleidfaoedd ar hyd y ffordd. Mae'r gosodiad yn cynnwys delweddau NASA o arwyneb y lleuad gyda cherddoriaeth wedi'i gyfansoddi gan y cyfansoddwr Dan Jones, a enillodd y wobr Ivor Novello am y trac sain teledu gorau am ei sgôr ar gyfer The Miniaturist y BBC.
Ond nid dim ond y lleuad fydd yn hudo. Gall ymwelwyr fynd ar daith yn ôl mewn amser gyda dyfodiad Boudicca. Gan farchog Cerbyd Rhyfel Rufeinig a adeiladwyd o gwmpas a sgwter symudedd, bydd Boudicca yn dod â chomedi a cherddoriaeth i'r strydoedd wrth annog eraill i ymuno â hi ar ei daith o amgylch Llandudno.
Bydd Ray Lee, artist sain sydd wedi’i wobrwyo am ei waith , yn dod â'i gerflun sain enfawr awyr agored rhyngweithiol i'r dref, gan greu cyngerdd trawiadol sy'n atgoffaol o ganu clychau, a ddarperir gan uchelseinyddion a leolir mewn wyth tŵr metel enfawr uchel. Mi fydd anghenfil y môr yn mynd i'r arfordir, i gyflwyno neges am foroedd glân a dychwelyd gwastraff plastig diangen i'r tir, a bydd morfil mawr yn cysylltu’r lan y môr ymhellach â’r dref.
Ac ym MOSTYN, ynghyd â'n harddangosfeydd Mae hi'n gweld y cysgodion, gyda dros 40 o artistiaid cyfoes yn ail-arolygu gwrthrychau a deunyddiau cyfarwydd mewn ffyrdd annisgwyl, a'n harddangosfa I’r Môr, byddwn hefyd yn cynnal yr artist Chris Lewis-Jones (Nu-Urban Gardeners) a gweithdy print rhyddhad mewn partneriaeth â'r Ganolfan Argraffu Ranbarthol.
Meddai Cyfarwyddwr MOSTYN, Alfredo Cramerotti:
“Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda nifer o artistiaid a sefydliadau i ddod â chelf a pherfformiad gwych i strydoedd Llandudno eto eleni. Mae gŵyl LLAWN yn ddathliad llawen o gelf gyfoes a'r sawl ffordd y gellir ei fwynhau - mae yna rywbeth i bawb!
Bydd CALL (Culture Action Llandudno) yn croesawu ymwelwyr i archwilio 'mannau coll' y dref trwy osodiadau, celf ddigidol, printiau a pherfformiad gan dros 30 o artistiaid rhanbarthol a fydd yn disgleirio golau ar adeiladau heb eu cyffwrdd ers blynyddoedd.
Bydd sinemâu a cherddoriaeth awyr agored o TAPE Community Music & Film Hen Golwyn a'r trawsnewid o gytiau traeth i gynnwys gosodiadau celf hefyd yn rhan o'r gweithgareddau.
“"Does dim gwahaniaeth lle mae ein hymwelwyr a'n trigolion yn Llandudno dros benwythnos LLAWN06, maent yn siŵr i ddod ar draws gwaith celf, perfformiadau, neu osodiadau a fydd yn eu gwneud i stopio, meddwl, neu gymryd rhan. Bydd ein partneriaid yr ŵyl hefyd yn gweithio gydag ysgolion a grwpiau lleol i greu cyfleoedd artistig.
"Y thema curadurol eleni yw 'Ecoleg Ddiwylliannol', sy'n edrych ar ein hamgylchedd, y môr, ein tiroedd, y planedau. Ond rydym hefyd yn edrych ar sut mae diwylliant yn chwarae rhan hanfodol yn ein trefi a'n rhanbarth a sut y gallwn gefnogi'r ecoleg hon o artistiaid i barhau i ffynnu. Bydd cymaint i'w archwilio a darganfod a byddwn yn codi'r caead ar fwy o weithgareddau wrth i ni symud ymlaen," ychwanegodd Sabine Cockrill, cyfarwyddwr CALL.
LLAWN ydi 'Penwythnos Celfyddydau Llandudno' MOSTYN am ddim, ac mae wedi, bob blwyddyn er 2013, dod â chelf a pherfformiad cyfoes i'r dref dros un penwythnos ym mis Medi.
Mae LLAWN06 yn digwydd dros benwythnos 14-16 Medi 2018 yn Llandudno. Wedi'i drefnu gan MOSTYN, mae partneriaid LLAWN yn cynnwys Mostyn Estates Ltd, Academi Frenhinol Gymreig (RCA Conwy), Culture Action Llandudno (CALL), Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy – Gwasanaeth Celfyddydau Conwy, Tape Community Music and Film, Helfa Gelf, Venue Cymru a Migrations.
Mae LLAWN yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, Mostyn Estates, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Celfyddau & Busnes Cymru a Chyngor Tref Llandudno.