LLAWN01

LLAWN01

Penwythnos Celf Llandudno #1

LLAWN01 yw’r amlygiad cyntaf o ŵyl gelfyddydol flynyddol ar gyfer Llandudno. sydd yn rhedeg o ddydd Gwener y 20fed tan ddydd Sul y 22eg Medi Bydd LLAWN01 yn dathlu hanes diddorol a lliwgar Llandudno am un penwythnos prysur, a bydd yn ystyried pam y cafodd y dref y teitl, Brenhines cyrchfannau Cymru.

Bydd LLAWN01 yn ailgyflwyno’r strwythur Fictoraidd eiconig i ymyl y traeth; sef y Cerbyd Ymdrochi, a oedd yn rhan angenrheidiol o’r arfer ar lan y môr yn y 19eg ganrif. Chwe cherbyd ymdrochi pwrpasol yn arddull oes Fictoria fydd curiad calon LLAWN01.

Bydd pob cerbyd ymdrochi yn ysbrydoliaeth ac yn lleoliad ar gyfer cyfres o ddigwyddiadau sydd wedi’u comisiynu’n arbennig, gan artistiaid lleol a rhyngwladol, a fydd i’w gweld ar y promenâd, ar lan y môr ac mewn lleoliad amlwg yng nghanol y dref.

Bydd y cerbydau diddorol hyn yn dod yn fyw fel orielau/theatrau bach symudol hynod o hardd, yn gartref i gyfres o berfformiadau a gosodiadau sy’n gysylltiedig â hanes y dref.

Cynhelir nifer o weithgareddau a digwyddiadau ochr yn ochr â hyn hefyd, a fydd yn dod â’r dref gyfan yn fyw, a bydd hyn ar y cyd a phrif bartneriaid yr ŵyl; MOSTYN, Helfa Gelf, Yr Academi Frenhinol Gymreig, Migrations, C.A.S.C, TAPE Community Music and Film, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Venue Cymru, i enwi ond rhai. Am rhagor o wybodaeth ewch ihttp://www.cymraeg.llawn.org