Mae MOSTYN ar gau dros dro
estynnir y tymor arddangos tan Tachwedd 2020
Oherwydd y pryderon parhaus ynglŷn â’r Coronafeirws (COVID-19) ac yn dilyn canllawiau’r Llywodraeth, mae MOSTYN yn parhau ar gau i’r cyhoedd ac mae ein staff yn parhau i weithio gartref gan fwyaf
Gobeithiwn ailagor yn ddiweddarach yn yr haf mewn ffordd ddiogel ac ystyriol, gyda’r bwriad o ymestyn ein harddangosfeydd cyfredol Athena Papadopoulos: Cain and Abel Can't and Able a Kiki Kogelnik: Riot of Objects tan 1 Tachwedd 2020. Bydd ein rhaglen arfaethedig o arddangosfeydd, sgyrsiau a gweithdai a drefnwyd ar ôl hynny yn cael eu cynnal, er y gellir gohirio'r rhain neu eu haddasu i'r cyd-destun parhaus. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei chyhoeddi’n fuan.
Er bod ein drysau ar gau yn ystod y cyfnod anodd hwn, rydym yn parhau i fod yn ymroddedig i gefnogi ac ymgysylltu â'n cymunedau, artistiaid a chynulleidfaoedd, hen a newydd, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Rydym yn cofio am bawb sydd wedi'u heffeithio gan yr argyfwng presennol, yn ogystal â’r gweithwyr allweddol a’r gwirfoddolwyr yn ein cymunedau.
Am newyddion a diweddariadau dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu cofrestrwch i'n rhestr bostio yma
1 Mehefin 2020