Mae MOSTYN ar gau dros dro
Neges o Gyfarwyddwr MOSTYN, Alfredo Cramerotti
Roedd 2020 bob amser yn mynd i fod yn flwyddyn ddiffiniol ym MOSTYN. Ddeng mlynedd ar ôl adnewyddiad ac ehangiad mawr, nid ydym wedi gallu dathlu'r pen-blwydd yn y ffordd y byddem wedi gobeithio. Pa bynnag heriau y mae eleni wedi'u cyflwyno, rwy'n falch o'r ffordd y mae ein tîm wedi ymateb - gan greu gofod diogel a chroesawgar yn ystod amseroedd agor, ac archwilio fformatau artistig cyffrous yn ddigidol yn ystod y cyfnodau cau a thu hwnt.
Rydym yn edrych ymlaen at y deng mlynedd nesaf gyda gobaith a gyda llawer o ddiolchgarwch am gefnogaeth ein cyllidwyr, ein partneriaid ac, wrth gwrs, ein hymwelwyr. Diolch!
Ymhellach i gyhoeddiadau llywodraeth Cymru a’r DU heddiw (19/12/2020), bydd MOSTYN ar gau i’r cyhoedd dros dro tan rybudd pellach.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl yn 2021 ac yn dymuno gwyliau diogel a hapus i bawb.
Am newyddion a diweddariadau dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol neu cofrestrwch i'n rhestr bostio yma.
Comisiynwyd Ellis Williams Architects (EWA) i adnewyddu ac ehangu MOSTYN yn ôl yn 2005/06. Ail-agorodd yr adeilad ym mis Mai 2010 ar ôl tair blynedd o waith ar y safle. Cliciwch yma i ddarllen cyfweliad â Dominic Williams a Mark Anstey o EWA - y prosiect adnewyddu, y dull pensaernïol a'r heriau o weithio ar brosiect mor gymhleth.
18 Rhagfyr 2020