Mae MOSTYN yn ailagor gydag arddangosfeydd newydd

MOSTYN image

Mae MOSTYN yn ailagor gydag arddangosfeydd newydd

Mae siop MOSTYN ar agor o 10 Tachwedd, ac orielau brif ar agor o 14 Tachwedd 2020


Bydd ein siop a'n horielau adwerthu yn ail-agor ar ddydd Mawrth 10 Tachwedd, gydag arddangosfa newydd gan Reveal Printmakers yn Oriel 6 ac arddangosfa gwneuthurwr newydd 'Anrhegion o Gymru a'r Ffiniau' yn ein siop. Gallwch chi ein cefnogi trwy wneud pryniant pan ydych yn ymweld â ni. Buddsoddir yr holl elw o werthiannau manwerthu yn ôl i'n rhaglen arddangosfeydd a digwyddiadau.

Bydd yr orielau brif ar gau, wrth i ni baratoi ar gyfer tymor newydd o arddangosfeydd, ar agor dydd Sadwrn 14 Tachwedd.  Ni fydd digwyddiad agoriadol, oherwydd cyfyngiadau COVID-19, ond mae ein tîm yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn gallu agor yn ddiogel, gydag iechyd ein staff a'n hymwelwyr ein blaenoriaeth uchaf.
 
Mae ein tymor newydd o arddangosfeydd yn cynnwys:

Hannah Quinlan and Rosie Hastings: Yn Fy Stafell
Mae'r arddangosfa sefydliadol unigol gyntaf Hannah Quinlan a Rosie Hastings Yn Fy 'Stafell yn dod a ffilm, paentio ffresgo ac yn waith ar bapur at ei gilydd.

Nick Hornby: Sygotau a Chyfaddefiadau
Mae arddangosfa unigol gyntaf Nick Hornby, enillydd ‘Gwobr y Gynulleidfa’ MOSTYN Agored 21, yn y DU yn cynnwys cyfres newydd o gerfluniau.

Richard Wathen: Llygaid Newydd Bob Tro
Mae arddangosfa unigol Richard Wathen, enillydd 'Gwobr Arddangosfa’ MOSTYN Agored 21, yn cynnwys cyfres newydd o baentiadau.