Mae MOSTYN yn cau dros dro

MOSTYN image

Mae MOSTYN yn cau dros dro

Tanysgrifiwch i’n rhestr e-bost i gael y newyddion diweddaraf


Mewn ymateb i bryderon cynyddol yn ymwneud â lledaeniad COVID-19 (Coronavirus), ac er mwyn amddiffyn iechyd a lles ein staff, gwirfoddolwyr ac ymwelwyr, mae MOSTYN wedi penderfynu cau ei orielau, caffi a siop, sy'n dod yn weithredol ar unwaith, hyd nes y clywir yn wahanol.

Mae hyn yn dilyn ataliad ein rhaglen gyhoeddus a digwyddiadau'r wythnos diwethaf. Tra bod ein hadeilad ar gau, bydd ein staff yn parhau eu gwaith yn rhagweithiol i gefnogi ein hartistiaid, ein cynulleidfaoedd a'n cymunedau dros yr wythnosau nesaf, ac mae ein sianeli digidol yn parhau ar agor i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf.

Ein horiau swyddfa yw 9.30yb - 5.30yh, Llun-Gwener a bydd staff yn gweithio o bell.

Os ydych wedi archebu tocyn neu gwrs ac angen ad-daliad, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r uchod, neu ein rhaglennu i'r dyfodol, e-bostiwch [email protected]