Mae MOSTYN yn penodi Curadur y Celfyddydau Gweledolrts newydd

delwedd Juliette Desorgues

Mae MOSTYN yn penodi Curadur y Celfyddydau Gweledolrts newydd

Juliette Desorgues


Mae'n bleser gennym gyhoeddi penodiad Juliette Desorgues fel ein Curadur y Celfyddydau Gweledol newydd ym MOSTYN, Cymru DU - y brif oriel a chanolfan celfyddydau gweledol sy'n arddangos celf gyfoes yng Nghymru.

Bydd Juliette yn gweithio ochr yn ochr â Chyfarwyddwr MOSTYN, Alfredo Cramerotti, a thîm yr oriel, i adeiladu ar ymestyn ac enw da lleol, cenedlaethol a rhyngwladol yr oriel trwy raglen arddangos ac ymgysylltu beirniadol rhagorol.

Dywedodd Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN:
Rwy'n falch iawn bod Juliette yn ymuno â'r tîm. Mae ganddi weledigaeth guradurol ragorol ac mae'n dod â chyfoeth o brofiad sefydliadol gyda hi. Fel Curadur y Celfyddydau Gweledol ym MOSTYN, mi fydd yn gyfrannwr allweddol i fyd celf gyfoes y DU ag yn rhyngwladol yn y blynyddoedd i ddod, ac rwy'n edrych ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith hwnnw.

Dywedodd Juliette Desorgues:
Rwy'n falch iawn o ymuno â MOSTYN fel Curadur y Celfyddydau Gweledol. Mae MOSTYN yn adnabyddus am chwarae rhan allweddol fel sefydliad celfyddydau cyhoeddus, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, trwy raglen celf gyfoes sy'n ymgysylltu'n feirniadol. Rwy’n gyffrous fy mod yn gweithio gyda thîm MOSTYN i barhau â’r weledigaeth hon, ar adeg pryd mae angen i fyfyrio’n feirniadol, o ystyried heriau cymdeithasol-wleidyddol cymhleth heddiw, yn hanfodol, rŵan yn fwy nag erioed.

Amdan Juliette Desorgues
Mae Juliette Desorgues yn guradur ac awdur. Astudiodd Hanes Celf ym Mhrifysgol Caeredin, Prifysgol Fienna a University College London. Cyn hynny, bu’n gweithio fel Curadur Cyswllt yn yr Institute of Contemporary Arts, Llundain ac roedd ganddi swyddi curadurol yn Oriel Gelf Barbican, Llundain a Generali Foundation, Fienna. Mae prosiectau diweddar yn cynnwys, ymhlith eraill, yr arddangosfeydd ‘This future is unthinkable. Yet here we are, thinking it’, Damien & the Love Guru, Brwsel, 2019; ‘Hypersea’, artmonte-carlo, Monaco, 2018, a’r arddangosfa a’r cyhoeddiad ‘Helen Johnson: Warm Ties’, Artspace, Sydney ac ICA, Llundain, 2018.