Mae MOSTYN yn sefyll yn erbyn hiliaeth

delwedd MOSTYN

Mae MOSTYN yn sefyll yn erbyn hiliaeth

Adnoddau a dolenni

Mae MOSTYN yn sefyll yn erbyn hiliaeth ac mewn undod â phob un sy'n parhau i ddioddef trais hiliol, gormes ac anghyfiawnder.
 
Rydym yn parhau i ymdrechu yn ein hymrwymiad i amrywiaeth a chydraddoldeb. Mae'n hanfodol ein bod ni, fel sefydliad ac fel unigolion, yn sicrhau bod newid systemig yn digwydd, nid yn unig yn yr UD ond yn y DU ac ar draws y byd.
 
Diweddariad i'r datganiad: 9fed Gorffennaf 2020

Yn ddiweddar, fe wnaethom gyhoeddi datganiad i gefnogi mudiad protest byd-eang Black Lives Matter a'n hymrwymiad i sefyll yn gadarn yn erbyn hiliaeth.
 
Hoffem fynegi ein cefnogaeth barhaus tuag at y mudiad a nodi ein hymrwymiad i sicrhau bod MOSTYN yn sefyll fel sefydliad gwrth-hiliol.
 
Mae datgymalu hiliaeth a gwrth-dduwch yn gyfrifoldeb cyfunol ac, o fewn y sector diwylliannol, mae hyn yn dechrau gyda sefydliadau. 
 
Rydym wedi ymrwymo i gynhwysiant a chydraddoldeb ac rydym yn cydnabod yr angen brys am newid, nid yn unig yn ein rhaglen, ond yn ein staff ac aelodaeth bwrdd ac yn ein polisïau a'n prosesau. Byddwn yn ceisio sicrhau ein bod yn creu man diogel ac agored ar gyfer nifer o leisiau yn ein sefydliad.
 
Rydym yn cymryd rhan mewn trafodaethau yn fewnol, a gyda sefydliadau cymheiriaid a grwpiau actifyddion eraill, i fyfyrio, gwrando a dysgu. Rydym yn gweithio tuag at gynllun gweithredu clir i sicrhau bod newidiadau angenrheidiol yn cael eu gweithredu, ac y byddwn yn eu cyhoeddi maes o law.
 
Rydym yn croesawu deialog agored ar y mater yma ac yn eich annog i gysylltu via [email protected]
 
Dolenni defnyddiol:
 
Anti-Racism Reading List (New York Times)
 
Audre Lorde’, The Uses of Anger: Responding to Racism, 1981 
 
Alex. Vitale, The End of Policing, FREE e-book, publishing by Verso Books, 2020
 
Your Kids Aren't Too Young to Talk About Race: Resources for Parents