MOSTudno Pop-Up

MOSTudno Pop-Up

Plant Ysgol Lleol Yn Cynnal Arddangosfa Dros Dro Mewn Partneriaeth Ag MOSTYN

Mae disgyblion o Ysgol Tudno yn Llandudno yn falch o gyflwyno arddangosfa, o'r enw 'Teithiau', sy'n cael ei gynnal ar ddydd Sadwrn Mai 16eg a Dydd Sul Mai 17eg yn yr ysgol ar Heol y Drindod.

Canlyniad prosiect artist preswyl dros gyfnod o bum wythnos yw'r arddangosfa dros dro, sy'n ran o bartneriaeth cyfredol gydag Oriel MOSTYN Gallery yn Stryd Vaughan. Ceir sgyrsiau gyda'r artist, gweithdai celf a darlleniadau barddoniaeth yn ystod y penwythnos.

Mae'r artist Nadine Carter-Smith wedi bod yn gweithio yn yr ystol ers dechrau mis Ebrill ac mae pob un o'r 220 disgybl, o 3 i 11 oed, wedi cymryd rhan mewn gweithdai celf gyda Nadine. Mae'r cerddor 'beat box' a hip hop, Ed Holden, a adwaenir hefyd fel Mr Phormula, wedi bod yn gweithio gyda'r disgyblion i greu darlun sain i gyd-fynd â'r arddangosfa. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ran o gwricwlwm Blwyddyn 5 sy'n gofyn i'r plant greu, curadu, trefnu a hyrwyddo eu oriel ei hunain. Y canlyniad fydd arddangosfa yn neuadd yr ysgol, gyda mwy o weithiau celf gan Nadine yn ffurfio llwybr o gwmpas adeilad yr ysgol.

Meddai Nadine Carter-Smith:

Mae'r prosiect cyffrous ac unigryw hwn yn gyfle ardderchog i mi gael gweithio gyda darpar artisiaid y dyfodol. Mae'r plant yn fy ysbrydoli i gyda'u creadigrwydd a'u brwdfrydedd ac rwyf wrth fy modd yn gwylio eu syniadau'n datblygu.

Meddai Derfel Thomas, athro Blwyddyn 5 yn Ysgol Tudno: Rydym mor eithriadol o falch o gael rhoi ein cefnogaeth llwyr i'r bartneriaeth gyffrous hon rhwng Ysgol Tudno a MOSTYN. Bydd yr oriel a'r ysgol yn cael eu huno mewn cymuned gelfyddydol, addysgiadol a chymdeithasol ac mae bwriad cael llawer mwy o gydweithrediadau a digwyddiadau creadigol yn y dyfodol.

Mae'r bartneriaeth ehangach, a ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a elwir MOSTudno, yn bwriadu i artistiaid a staff yr oriel weithio ochr yn ochr â phlant, staff, rhieni a neiniau a theidiau. Un o brif amcanion y prosiect cyntaf hwn gyda'r bartneriaeth yw bod y disgyblion ysgol, a'r gymuned ehangach, yn cael y cyfle i fynd i'r afael â'r broses y mae'r artist yn ei ddilyn wrth fynd ati i greu corff o waith.