MOSTYN AGORED 19

MOSTYN AGORED 19

MOSTYN Agored

Ers yr arddangosfa gyntaf yn 1989 mae’r Agored wedi bod yn alwad i artistiaid o unrhyw oed, cefndir daearyddol neu leoliad preswyl i ymgeisio, gyda arddangosfa o’r gwaith celf dethol yn digwydd yn MOSTYN, a gwobr o £10,000 yn cael ei dyfarnu i artist unigol neu gywaith. Yn ogystal a hyn, caiff wobr o £1000 i'w gyflwyno i 'Ddewis y Bobl', sef y rhai a dderbynir y nifer fwyaf o bleidleisiau gan ymwelwyr yn ystod yr arddangosfa.

Am y tro cyntaf yn hanes MOSTYN Agored, bydd y gwahoddiad ar gyfer gweithau i'w hystyried yn cael ei ymestyn i gynnwys ystod fwy eang o ddisgyblaethau; o gelfyddydau cymhwysol hyd at ddylunio a chyfathrebu graffig.

Y detholwyr ar gyfer MOSTYN Agored 19 yw: Claire Norcross, Dylunwraig; Philip Hughes, Cyfarwyddwr Canolfan Grefft Rhuthun; Adam Carr, Curadur Rhaglen Gelf Weledol MOSTYN; Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN; a detholwr arall i'w cadarnhau.  A chi, y gynulleidfa fydd yn ymweld â’r arddangosfa, ar gyfer 'Dewis y Bobl'.

 

DYDDIADAU ALLWEDDOL A’R BROSES YMGEISIO

 

21ain Tachwedd 2014 – Dyddiad cyntaf yr alwad am geisiadau

 

3ydd Ionawr 2015 – Dyddiad cau ar gyfer talu’r tâl ymgeisio o £25 a derbyn y ffurflen gofrestru wedi’i chyflawni.

 

10fed Ionawr 2015 – Dyddiad cau ar gyfer derbyn y ffurflen gais ynghyd â delweddau o’r gwaith celf dros ebost.