Nadolig ym MOSTYN
Llun: Addurniadau Nadolig gan Miss Marple Makes
Mae’n gofod manwerthu rhagorol yn cyflwyno amrediad o eitemau cyfoes wedi eu gwneud â llaw gan grefftwyr lleol a chenedlaethol – yn rhai profiadol ac yn egin wneuthurwyr. O dlysau hardd i eitemau defnyddiol i’r tŷ, mae siop MOSTYN yn lle delfrydol i ganfod anrheg anarferol neu rywbeth arbennig i chi’ch hun.
Mae Siop MOSTYN yn lle delfrydol i ddarganfod anrhegion anarferol ac unigryw. Cewch ddengyd o anrhefn y stryd fawr a dewis o ystod eang o ddarnau celf unigryw yn ogystal â dewis cyffrous o lyfrau chylchgronau celf a chardiau hardd.
O fis Tachwedd, bydd ein ffenestri hyfryd art-nouveau yn cael eu haddurno gan Hannah Wardle o Drws y Coed. Yn ystod tymor y dathlu bydd y siop ar agor tan 8YN ar 4ydd, 11eg a’r 18fed o Rhagfyr pan fydd adloniant tymhorol yn yr oriel, y caffi a’r siop, gyda gwin poeth sbeislyd a mins peis yn y caffi a digonedd o amser ar gyfer pori hamddenol neu siopa munud olaf.
Mae’r SIOP ar agor dydd Mawrth – dydd Sul, 10.30YB – 5.00YP
Agor Dydd Llun 22 Rhagfyr 10.30YB – 5.00YP
Nosweithiau Hwyr i’r Nadolig: Nos Iau Rhagfyr 4ydd, 11eg a’r 18fed tan 8.00YN
Cofiwch fod MOSTYN yn rhan o’r Cynllun Casglu, cynllun prynu di-log sy’n eich galluogi i brynu gweithiau celf gwreiddiol neu eitemau crefft a thalu amdanynt dros gyfnod estynedig. Holwch ni am fwy o fanylion gan ei fod yn ffordd fforddiadwy o brynu crefft a chelf o safon.
Cyswllt: f:+44(0)1492 868 191 e: [email protected]