
NEWYDD! Jazz ym MOSTYN
First Thursday every month
Rydym yn falch o gael lansio ein 'Jazz Stryd Vaughan' cyntaf erioed ym MOSTYN ar nos Iau 3ydd Medi 2015.
Hon fydd y gyntaf yn yr hyn y gobeithiwn fydd yn gyfres reolaidd o ddigwyddiadau gyda'r nos yn ein Caffi Celf ardderchog, ac yn elfen arall werth chweil o'r sîn gerddoriaeth yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Calon Promotions, a'r cerddor jazz o Ogledd Cymru, Neil Yates, i gyflwyno jazz a cherddoriaeth greadigol o'r radd flaenaf mewn gofod sy'n llawn awyrgylch ac sy'n ysgogi creadigrwydd. Ymwelwch â'n tudalen ddigwyddiadau am ragor o wybodaeth ac i brynu tocynnau.
25 Awst 2015