'PROCESSIONS' 2018

delwedd PROCESSIONS

'PROCESSIONS' 2018

Prosiect celf cenedlaethol i ddathlu canmlwyddiant hawl merched i bleidleisio

 

Mae MOSTYN, ar y cyd â  CALL, yn falch o gyhoeddi ein cefnogaeth i PROCESSIONS, gwaith celfyddyd o gyfranogiad torfol, i nodi canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl, a roddodd yr hawl i ferched ym Mhrydain bleidleisio am y tro cyntaf.

Ar ddydd Sul 10 Mehefin 2018, ymunwch â miloedd o fenywod i ffurfio pedair o orymdeithiau epig PROCESSIONS ym mhedair prifddinas wleidyddol y DG – Belfast, Caerdydd, Caeredin a Llundain.

Gwahoddir menywod a merched, y rheiny sy’n hunan-adnabod fel menywod, ac unigolion heb ryw deuaidd o bob oed, hil, diwylliant, gallu, cysylltiad gwleidyddol a chefndir i greu pedwar portread byw o fenywod heddiw. Byddwch yn cerdded gyda baneri a fflagiau a grëwyd ar gyfer yr achlysur yn benodol.

Bydd 100 o fudiadau yn gweithio gyda 100 o artistiaid a chymunedau o ferched ar hyd a lled y wlad i arwain y digwyddiad, yn rhan o raglen gyhoeddus helaeth o weithdai creadigol i greu 100 o faneri canmlwyddiant a fydd yn rhan o’r gwaith celf enfawr hwn.

Bydd y gweithdai gwneud baneri yn canolbwyntio ar destun a thecstilau, gan adleisio dulliau ymgyrchu’r Swffragetiaid. Fe fyddan nhw’n fannau i ystyried bywydau, syniadau a gobeithion menywod yn yr 21ain ganrif yn Llandudno.

Bydd yr artist Melanie Miller yn creu baner Llandudno ym mis Mai.

Gweithdai gwneud baneri tecstil:
12, 19, 26 Mai, 11am-4pm yn10 Vaughan Street, Llandudno

I gael mwy o wybodaeth ac i gadw lle, ewch i www.cultureactionllandudno.co.uk/events neu ebost [email protected]

I gael mwy o wybodaeth am ddigwyddiad Caerdydd ac i gofrestru i fod yn rhan ohono, ewch i:: www.processions.co.uk

#PROCESSIONS2018, @processions2018, @ArtichokeTrust, @1418NOW 

Cafodd prosiect PROCESSIONS ei gomisiynu gan 14-18 NOW a’i gynhyrchu gan Artichoke.
Cafwyd cymorth gan y Loteri Genedlaethol drwy gyfrwng Cyngor Celfyddydau Lloegr a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, ac Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.
Cynhyrchir PROCESSIONS Caerdydd gan Artichoke ar y cyd â Gŵyl y Llais a Chanolfan Mileniwm Cymru.