Rhaglen Arddangosfeydd MOSTYN 2020

delwedd MOSTYN

Rhaglen Arddangosfeydd MOSTYN 2020

Dechrau Mawrth 2020


Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ei raglen o arddangosfeydd ar gyfer 2020, sy’n cynnwys cyflwyniadau gan yr artistiaid canlynol:  Kiki Kogelnik, Athena Papadopoulos, Hannah Quinlan a Rosie Hastings, Nick Hornby, Richard Wathen, a Jacqueline de Jong.

14 Mawrth – 5 Gorffennaf 2020

Kiki Kogelnik: Riot of Objects
Riot of Objects yw’r cyflwyniad sefydliadol cyntaf yn y DU i ganolbwyntio ar waith serameg Kiki Kogelnik. Mae holl waith amlddisgyblaethol Kiki Kogelnik yn ymestyn dros 5 degawd, ac mae’n cael ei hystyried yn un o ffigurau allweddol yr avant-garde ar ôl y rhyfel.
Datblygodd ei harddull artistig amlochrog o waith paentio abstract i Gelf Pop a chynrychiolaeth o'r corff (benywaidd). Mae’r arddangosfa hon yn dangos gallu diderfyn Kiki Kogelnik i ddyfeisio pethau newydd a’i hymrwymiad aflonydd i greu pethau.

Cafodd Kiki Kogelnik ei geni yn Bleigburg, Awstria yn 1935. Treuliodd gyfnodau yn byw ac yn gweithio yn Efrog Newydd ac yn Fienna. Bu farw yn 1997 yn Fienna, Awstria.

Wedi’i churadu gan Chris Sharp ar y cyd â'r Kiki Kogelnik Foundation.

Athena Papadopoulos: Cain and Abel Can't and Able
Mae’r arddangosfa hon yn cyflwyno corff newydd o waith gan yr artist Athena Papadopoulos. Gan ddefnyddio mwy a mwy o ddefnyddiau a naratifau hynafol, y mae’n eu cyfuno ag elfennau annisgwyl, mae'r gyfres newydd hon o’i gwaith yn cynnwys sain, cerfluniau a phaentiadau. Mae'r arddangosfa yn ymchwilio i ddeuoliaethau dynol, gan gwestiynu’r ddeuoliaeth gymhleth rhwng rheswm ac emosiwn.

Cafodd Athena Papadopoulos ei geni yn Toronto, Canada yn 1988. Mae hi bellach yn byw ac yn gweithio yn Llundain.

Wedi’i churadu gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN.

18 Gorffennaf – 1 Tachwedd 2020

Hannah Quinlan and Rosie Hastings: In My Room
Mae arddangosfa sefydliadol unigol gyntaf Hannah Quinlan a Rosie Hastings yn datblygu ymchwiliad yr artistiaid i wleidyddiaeth, hanesion ac estheteg gofodau a diwylliant queer. Mae'r corff hwn o waith sydd newydd ei greu yn cynnwys paentiad ffresgo, rhwbiadau wal a ffilm. Mae'n tynnu sylw at effaith y gwaith uwchraddio (gentrification) sydd wedi’i wneud ar y ddinas a'i chymunedau hoyw, ac yn archwilio'r berthynas rhwng gwrywdod, cyfalafiaeth a phŵer yn y dirwedd drefol.

Cafodd Hannah Quinlan a Rosie Hastings eu geni yn 1991 yn Newcastle a Llundain. Maen nhw’n byw ac yn gweithio yn Llundain.

Wedi’i churadu gan Juliette Desorgues, Curadydd y Celfyddydau Gweledol, MOSTYN. Wedi’i chomisiynu gan Oriel Focal Point, cyflwynir In My Room mewn partneriaeth â MOSTYN ac Oriel Humber Street, Hull.

Nick Hornby
Mae’r arddangosfa hon yn cynnwys gwaith ffotograffeg newydd gan Nick Hornby, enillydd 'Gwobr Cynulleidfa' MOSTYN Agored 21, ac mae’n parhau â’i waith ymchwil i gymysgrywiaeth. Gan fwyngloddio mynegai cyfunol hanes diwylliannol, mae Hornby yn defnyddio technoleg nid yn unig fel ffordd o alw ar fydoedd newydd posib, ond hefyd fel ffordd o ymchwilio i ffyrdd amgen o weld hanes.

Cafodd Nick Hornby ei eni yn Llundain yn 1980. Mae’n byw ac yn gweithio yn Llundain ac yn Efrog Newydd.

Wedi’i churadu gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN.

Richard Wathen
Mae arddangosfa unigol Richard Wathen, enillydd ‘Gwobr Arddangosfa’ MOSTYN Agored 21, yn cynnwys cyfres newydd o baentiadau. Wedi'i wreiddio yn y gwaith hanesyddol o baentio, mae ei waith yn canolbwyntio i raddau helaeth ar bortreadau, gan ddarlunio ffigurau mewn cyflwr o betruso a myfyrio. Mae ei ddefnydd o fanylion cynnil yn creu ymdeimlad o amwysedd yn ei baentiadau, trwy wrthod cael eu gosod yn gadarn mewn lle nac amser penodol.

Cafodd Richard Wathen ei eni yn Llundain yn 1971. Mae’n byw ac yn gweithio yn Suffolk, Lloegr.

Wedi’i churadu gan Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr, MOSTYN.

14 Tachwedd 2020 – 28 Chwefror 2021

Jacqueline de Jong
Mae Jacqueline de Jong yn cael ei hystyried yn un o ffigurau artistig hanfodol yr avant-garde ar ôl y rhyfel. Yr arddangosfa hon yw'r cyflwyniad unigol sefydliadol cyntaf o'i gwaith yn y DU. Yn ystod ei gyrfa, sy’n ymestyn yn ôl hanner canrif, mae Jacqueline de Jong wedi datblygu dull unigryw o baentio. Mae ei gwaith yn fynegiadol o ran arddull, ac mae’n arddangos erotiaeth, trais a hiwmor diymatal. Ochr yn ochr â’i gwaith fel peintiwr, bu’n gweithio fel golygydd yn y Situationist Times (1962-1967) a bu’n aelod o’r Situationist International yn ystod ei blynyddoedd cynnar ym Mharis yn y 1960au.

Cafodd Jaqueline de Jong ei geni yn Hengelo, Yr Iseldiroedd yn 1939. Mae hi’n byw ac yn gweithio yn Amsterdam, Yr Iseldiroedd.

Wedi'i churadu gan Juliette Desorgues (Curadur y Celfyddydau Gweledol, MOSTYN) a’i threfnu mewn cydweithrediad â WIELS, lle bydd yr arddangosfa'n cael ei chyflwyno gan Xander Karskens (Cyfarwyddwr, De Ateliers) a Devrim Bayar (Curadur, WIELS) (12 Mehefin – 16 Awst 2020).