Rheolaeth newydd o gaffi

delwedd caffi

Rheolaeth newydd o gaffi

Eich hoff le newydd i gyfarfod yn Landudno

 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein caffi yn cael ei ailagor. Bydd y caffi, o fis Mai 2019, yn cael ei redeg gan Mike Jones, a anwyd yng Nghymru, o Gaerdydd yn wreiddiol, a'i bartner Clare Henderson ac maent wedi adleoli yn ddiweddar i Ogledd Cymru..

Mae'r caffi yn ail-agor gyda chynnig o gacennau blasus a diodydd poeth ac oer, gan gynnwys coffi wedi'u rhostio'n lleol a thrwythau te. Yn dod yn fuan, ym mis Mehefin, bydd y fwydlen yn cynnwys saladau, cawl a chinio ysgafn gyda bwydlen lawn i'w chyflwyno ym mis Gorffennaf. Bydd y cwpl hefyd yn cynnig gwasanaeth arlwyo i redeg ochr yn ochr â chyfleuster llogi lleoliad yn yr oriel.

Mae Mike, hefo'i yrfa hir yn y diwydiant bwyd yn cynnwys rhedeg nifer o fwytai yn Llundain, wedi gweithio yn y busnes ers oedd yn 18 oed. Bydd Clare yn adnewyddu cysylltiadau teuluol â'r oriel; ei hen ewythr oedd y pensaer gwreiddiol yn adeilad yr oriel yn ôl ym 1901.

Dywedodd Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN:
"Rydym yn falch iawn o gael ein caffi ar waith eto gyda Mike a Clare. Maen nhw wrth eu bodd gyda'r oriel ac mae ganddynt gynlluniau cyffrous i ddatblygu'r cynnig bwyd yma."
 
Dywedodd Mike Jones:
"Rydym yn edrych ymlaen at ddod â choffi gwych a chynnig bwyd cyfoes blasus i'r lle gwych hwn."

Mae'r caffi ym MOSTYN ar agor o 10.30yb - 5.00yp dydd Mawrth - dydd Sul. Am ymholiadau ffoniwch 01492 868191 yn ystod oriau agor.