Rydym yn chwilio am Aelod newydd o Gyngor yr Oriel
Gwahoddir datganiadau o ddiddordeb
Mae MOSTYN yn chwilio am ddatganiadau o ddiddordeb am swydd fel Aelod o Gyngor yr Oriel - cyfle unigryw i unigolyn proffesiynol gyda phrofiad yn y celfyddydau a/neu fusnes i ddylanwadu a chefnogi cyfeiriad canolfan gelfyddydau weledol gyfoes fwyaf blaenllaw Cymru yn y dyfodol.
Mwy o wybodaeth yma.
Dylid anfon e-bost gyda datganiadau o ddiddordeb, ynghyd â CV at Gyfarwyddwr MOSTYN, Alfredo Cramerotti [email protected]. Os ydych chi eisiau sgwrs anffurfiol, neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â 01492 879201 os gwelwch yn dda.
18 Mai 2016