RYDYM YN RECRIWTIO: Cymrawd Dysgu ac Ymgysylltu Curadurol
Hoffech chi weithio ochr yn ochr â'n tîm ym MOSTYN?
Mae MOSTYN yn chwilio Cymrawd Dysgu ac Ymgysylltu Curadurol i weithio ochr yn ochr â'r tîm.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â'r profiad a'r sgiliau i ddod â materion diwylliannol a chymdeithasol yn fyw trwy'r celfyddydau, gan gyflwyno cynulleidfa mor eang â phosibl i fuddion a chyfleoedd celf gyfoes. Bydd deiliad y swydd yn ymchwilio ac yn creu cynlluniau ar gyfer dulliau uchelgeisiol ac arbrofol o gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac ehangu ymgysylltiad â'n cymunedau.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd, dydd Sul 28 Chwefror 2021.
Disgwylir cynnal cyfweliadau’r wythnos yn cychwyn 8 Mawrth 2021.
27 Ionawr 2021