RYDYM YN RECRIWTIO: Rheolwr Arddangosfeydd

RYDYM YN RECRIWTIO: Rheolwr Arddangosfeydd

Hoffech chi weithio ochr yn ochr â'n tîm ym MOSTYN?

 

Mae MOSTYN yn chwilio am Rheolwr Arddangosfeydd i weithio ochr yn ochr â'r tîm.

Yn gyfrifol am:

  • Cyllidebau penodol i feysydd cyfrifoldeb.
  • Rheoli'r gwasanaethau technoleg dan gontract ar gyfer arddangosfeydd a digwyddiadau.
  • Sefydlu a chynnal systemau ar gyfer y gweithrediad, gosodiad, dad-osodiad a'r gynhaliaeth o arddangosfeydd a chyflwyniadau MOSTYN, yn ataliol ac yn adweithiol, gan gynnwys ar gyfer digwyddiadau oddi ar y safle a reolir gan MOSTYN. Dylai'r systemau hyn gael eu cyfleu'n eang i swyddogaethau mewnol fel y gellir delio ag argyfyngau yn absenoldeb deiliad y swydd.

Dadlwythwch y disgrifiad swydd llawn a'r broses ymgeisio yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner dydd dydd Mercher 12 Ionawr 2022. 

Disgwylir i gyfweliadau gael eu cynnal wythnos/c 17 Ionawr 2022.