RYDYM YN RECRIWTIO: Swyddog Marchnata Digidol a Mewnwelediadau

RYDYM YN RECRIWTIO: Swyddog Marchnata Digidol a Mewnwelediadau

Hoffech chi weithio ochr yn ochr â'n tîm ym MOSTYN?

 

Mae MOSTYN yn chwilio am Swyddog Marchnata Digidol a Mewnwelediadau i weithio ochr yn ochr â'r tîm.
 
Rydym yn chwilio am rywun i reoli ac optimeiddio’r ddarpariaeth effeithiol o weithgaredd marchnata digidol, dadansoddiad digidol, mewnwelediadau wedi'u gyrru gan ddata ar gyfer MOSTYN, gan greu ymgyrchoedd marchnata/hysbysebu a chynnwys digidol hudolus ar gyfer arddangosfeydd, digwyddiadau, manwerthu, cynnwys digidol a chyfleoedd dysgu. Gydag angerdd a diddordeb cryf mewn diwylliant cyfoes, sylw i fanylion ac awydd i ddefnyddio offer a thueddiadau digidol i wneud y gorau o berfformiad gwefan newydd MOSTYN (ar y gweill), ymgyrchoedd digidol a sianeli cyfryngau cymdeithasol, bydd deiliad y swydd yn rheoli gweithgaredd marchnata a yrrir gan ddata sy'n annog ymwelwyr yn gorfforol i'r oriel, yn ymgysylltu â'n cynnwys digidol ac yn integreiddio â'n cronfa ddata cwsmeriaid.
 
 
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 23 Medi 2021 am 17:00.
 
Bydd cyfweliadau yn cael eu cynnal ddydd Mercher 29 Awst a dydd Iau 30 Awst 2021, gyda dyddiad cychwyn mor gynnar â 4 Hydref 2021 (yn amodol ar rybudd).