
STANDPOINT FUTURES Rhaglen Breswyl
Gwahoddir Ceisiadau
Mae Standpoint Futures yn rhaglen breswyl ar gyfer artistiaid gweledol, sy’n darparu cyfleoedd o safon uchel wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer trafod a rhyngweithio gyda’r byd celfyddydol yn Llundain. Gwahoddir ceisiadau ar gyfer rhaglen 2017.
Mae pob rhaglen yn para 6 wythnos, gan weithio yn Stiwdios Chisenhale, partneriaid y rhaglenni preswyl newydd yn Bow, Llundain E3. Mae Standpoint Futures yn darparu stiwdio a llety am ddim i’r artistiaid yn ystod eu cyfnod preswyl, yr holl gyfarfodydd â’r cynghorwyr a’r mentoriaid, ynghyd â chyfraniad o £100 yr wythnos at dreuliau.
Cynhelir y rhaglenni preswyl rhwng canol Ionawr a mis Gorffennaf 2017.
Bydd y porth cyflwyno yn dod yn weithredol ddydd Llun 1 Awst.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau: dydd Mawrth 6 Medi
Cyfweliadau yn Standpoint: dydd Mawrth 4 Hydref
Ffi ymgeisio: £16.00
Detholwyr:
Alfredo Cramerotti, Cyfarwyddwr MOSTYN
Ben Borthwick, Cyfarwyddwr Canolfan y Celfyddydau Plymouth
Kwong Lee, Cyfarwyddwr Oriel Castlefield
Andrea Davidson, Rheolwr y Celfyddydau yn Stiwdios Chisenhale
Fiona MacDonald, Cyfarwyddwr Standpoint Futures
I gael rhagor o wybodaeth dilynwch y ddolen i’r wefan yma
9 Awst 2016