
SWYDD WAG: Curadur y Celfyddydau Gweledol
Rydym yn chwilio am unigolyn uchelgeisiol a thalentog i ymuno â'r tîm ac i arwain y rhaglenni curadurol ym MOSTYN, gan weithio gyda'r Cyfarwyddwr, Alfredo Cramerotti, a thîm ehangach yr oriel, i greu arddangosfeydd cyffrous o ansawdd uchel i'n cynulleidfaoedd a'n cymuned ar-lein. Rydym yn chwilio am rywun sy'n gyfarwydd â’r ffordd y mae’r byd celf gyfoes rhyngwladol a'i gysylltiadau yn gweithio, yn ariannol ac o ran cynnwys, y gallu i drafod a chyfryngu themâu a chysyniadau cymhleth mewn ffordd glir a dealladwy i gynulleidfaoedd lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae rhwydwaith eang o gysylltiadau yn ogystal ag agwedd ac uchelgais pellgyrhaeddol yn hanfodol.
£30k y flwyddyn (pro rata) £24k am 30 awr yr wythnos
Lawrlwytho'r Disgrifiad Swydd yma