- Sgwrs
Sylvia Sleigh: eicon ffeministaidd Llandudno
Oherwydd
Rydym
Mae celf ffeministaidd a beirniadaeth ffeministaidd wedi cael dylanwad mawr ar y byd celf gyfoes. Mae llawer o'r artistiaid yn defnyddio 'cyfryngau newydd' fel fideo, perfformiadau neu ffotograffiaeth, ond mae rhai artistiaid yn herio'r sefydliad drwy ddefnyddio a dymchwel ei draddodiadau ei hunan, ac mae Sylvia Sleigh yn un o'r artistiaid hynny. Gan ddefnyddio'r cyfrwng traddodiadol o olew ar gynfas, y ffurf ddynol, portreadau a chyfeirio at hanes celf, mae hi'n addasu'r rhain ar gyfer ei hagenda a'i diben ei hun. Bydd y ddarlith â darluniau'n edrych ar waith Sylvia Sleigh a'i chyfraniad at orielau Efrog Newydd: A.I.R. (Oriel Artistiaid Preswyl), Soho 20 (oriel gydweithredol gan fenywod), a'r Sister Chapel.
Mae T. Gwyn Williams yn artist, yn hanesydd celf ac yn ddarlithydd poblogaidd.