&

Exhibition

&

'Ar Gydweithio '
14 Tachwedd - 8 Mai 2016

Mae ‘&’ (a yngenir ‘a’) yn arddangosfa ble caiff cydweithrediad a chysyniad fel pynciau eu harchwilio ar gyfer y prosiectau sy'n cael eu harddangos a'r arddangosfa drwyddi draw. GLITCH, cydweithredfa MOSTYN i bobl dan 25 oed sy'n rhan o Cylch, dan arweiniad Tate ac wedi'i ariannu gan Sefydliad Paul Hamlyn, sy'n gyfrifol am ddod â'r cyfan at ei gilydd.

Mae ‘&’ yn cynnwys prosiectau gan y grŵp sy'n archwilio amrywiaeth o'u diddordebau personol trwy gydweithio gydag asiant o'r tu allan, ac mae'n olynu sioe gyntaf y grŵp (Oriel1) oedd ymlaen o fis Tachwedd 2014 hyd fis Mawrth 2015. Ymysg eraill sy'n cymryd rhan mae artistiaid, dylunwyr graffig, teilwriaid, archifau hanesyddol, curadur a thîm MOSTYN, ac maent yn cyfuno celf a phractis guradurol.

Yn ‘&’ hefyd caiff cyweithiau sy'n bodoli eisoes a rhai blaenorol sydd wedi digwydd rhwng disgyblaethau celf, dylunio a ffasiwn eu cyflwyno. Mae'r prosiectau gan aelodau grŵp GLITCH felly'n cael eu rhoi mewn cyd-destun ehangach gan roi fframwaith i'r gwyliwr mewn perthynas ag agweddau eraill o ddiwylliant, yn ogystal â'r byd ehangach.

--

Mae GLITCH yn rhaglen ledled y DU sy'n cysylltu pobl o 15-25 oed gyda'r celfyddydau mewn orielau ac amgueddfeydd. Mae'r arddangosfa hon yn ehangu ymrwymiad MOSTYN gyda'r rhan y mae pobl ifanc yn ei chwarae yn yr oriel, gan anelu at gynnig amgylchedd proffesiynol i archwilio posibiliadau cynhyrchiad a chyflwyniad diwylliannol.

Supported by: