(addas ar gyfer 13+ oed ac unrhyw un sydd â diddordeb mewn golygu lluniau sylfaenol)
Dysgwch sut i ddefnyddio meddalwedd trin delweddau i newid eich ffotograffau eich hun yn ddigidol ar eich ffôn neu dabled.
Ymunwch â Holly o'n Tîm Ymgysylltu, wrth iddi fynd â chi trwy bum ffordd i drin eich ffotograffau gan ddefnyddio ap am ddim, Adobe Photoshop Express. Anfonwch eich delweddau digidol atom ni i rannu neu gadwch sgrin luniau ar gyfer eich gwaith cwrs celf/dylunio.
Anfonwch eich delweddau digidol atom ni i rannu neu gadwch sgrin luniau ar gyfer eich gwaith cwrs celf/dylunio.
Byddwch angen
Ffôn smart neu dabled
Ap Adobe Photoshop Express (am ddim)
Rhai o'ch ffotograffau eich hun wedi'u harbed i'ch ffôn
Anfonwch eich delweddau trwy WeTransfer at [email protected] erbyn dydd Gwener 29 Mai a byddwn yn rhannu detholiad ar ein tudalen Facebook.
Nodyn i fyfyrwyr celf Blwyddyn 10 - 12:
Mae trin eich lluniau eich hun yn ddigidol yn ffordd wych o ennill marciau ychwanegol at eich portffolio celf. Nid oes angen unrhyw offer arbenigol arnoch, mae am ddim a gall gyd-fynd ag unrhyw thema prosiect. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol os ydych chi ym mlwyddyn 10 neu 12 ac yn gweithio ar eich gwaith cwrs gartref. Gweler Tiwtorial 5 - Digideiddio am gyngor ac awgrymiadau ymarferol.
Tiwtorial 1 - Lliw Gan ddefnyddio’r ap Adobe Photoshop Express, byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio lliw i greu delwedd fwy effeithiol. Byddwn yn mynd i'r afael ag ystyr lliw, arlliw, tôn a lliwiau cyflenwol.
Sicrhewch fod capsiynau YMLAEN am gyfarwyddiadau.
Tiwtorial 2- Cyfrannedd Rydym yn edrych ar y Rheol Traeanau a sut y gall hyn wella cyfansoddiad eich delwedd yn nhiwtorial 2. Sicrhewch fod capsiynau YMLAEN am gyfarwyddiadau.
Tiwtorial 3- Blendio Dysgwch sut i ddefnyddio'r offer pylu a vignette i roi canolbwynt cryf i'ch delwedd yn nhiwtorial 3. Sicrhewch fod capsiynau YMLAEN am gyfarwyddiadau.
Tiwtorial 4- Cywiriadau Yn nhiwtorial 4 edrychwch ar achosion llygad coch a sut y gallwn eu trwsio'n hawdd. Rydym hefyd yn edrych ar yr offeryn pylu a sut y gallwn ei ddefnyddio i gywiro brychau. Sicrhewch fod capsiynau YMLAEN am gyfarwyddiadau.
Tiwtorial 5- Digideiddio Ar gyfer y tiwtorial olaf yn y gyfres, edrychwn ar sut i ddefnyddio'ch sgiliau a'ch terminoleg newydd i ddatblygu'ch portffolio neu'ch gwaith cwrs o gartref. Sicrhewch fod capsiynau YMLAEN am gyfarwyddiadau.