Jonathan Monk

Jonathan Monk

'Picture Post Card Posted From Post Box Pictured'

Mae 'Picture Post Card Posted From Post Box Pictured', gan yr artist o Brydain Jonathan Monk, yn rhan o gyfres o ddarnau ar ffurf cardiau post. Hyd yma, mae'r gyfres yn cynnwys rhai sydd wedi'u gwneud ar gyfer lleoliadau yn Efrog Newydd, Llundain, Brwsel a Pharis. Mae pob fersiwn yn y gyfres yn cynnwys llun o'r blwch postio agosaf at yr oriel, y sefydliad neu'r siop lyfrau y mae wedi'i gynhyrchu ar ei gyfer. Mae'r fersiwn yma wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer MOSTYN ac mae'n cynnwys y blwch postio y tu allan i'r Swyddfa Post, drws nesaf i'r oriel.

Mae'r cardiau post ar werth. Ar ol eu prynu, mae'r artist yn llofnodi'r cerdyn ac wedyn yn ysgrifennu'r cyfeiriad a'r neges a ddewisir gan y prynwr. Mae'r cerdyn post yn cael ei bostio wedyn o'r bwlch postio sydd yn y llun ar y cerdyn post. 

'Picture Post Card Posted From Post Box Pictured', 2014 

10 x 15cm cerdyn post

 

£40.00