Cipolwg 12

Cipolwg 12

Yn y caffi
6 Gorffennaf - 1 Hydref 2017

Mae gennym ddetholiad ardderchog arall o waith gan artistiaid o Ogledd Cymru yn y caffi y tymor hwn ym MOSTYN, mewn partneriaeth gyda’r Helfa Gelf Art Trail.

Gill Crozier | Mike Flory | Carys Roberts | Dave Thomas | Sarah Whiteside

Mae'r arddangosfa wedi'i guradu gan Barry Morris. Mae’r arddangosfa yn cynnig cipolwg o dalentau Helfa Gelf, digwyddiad stiwdios agored mwyaf Cymru, a gynhelir ledled Siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i’n hymwelwyr weld peth o’r gwaith cyffrous ac amrywiol sy’n cael ei gynhyrchu yn yr ardal.

Mae’r holl weithiau ar werth ac fe ellir eu prynu gyda chymorth y Cynllun Casglu.