Cipolwg 14

Cipolwg 14

Artistiaid Helfa Gelf i fyny'r grisiau yn y caffi
30 Ionawr - 3 Mehefin 2018

Mae gennym ddetholiad ardderchog arall o waith gan artistiaid o Ogledd Cymru yn y caffi y tymor hwn ym MOSTYN, mewn partneriaeth gyda’r Helfa Gelf Art Trail.

Nigel Morris | Sophie Scharer | Kiran Sharma | Swondonkey

Mae'r arddangosfa wedi'i guradu gan Mark Hughes,

MOSTYN. Mae’r arddangosfa yn cynnig cipolwg o dalentau Helfa Gelf, digwyddiad stiwdios agored mwyaf Cymru, a gynhelir ledled Siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i’n hymwelwyr weld peth o’r gwaith cyffrous ac amrywiol sy’n cael ei gynhyrchu yn yr ardal.

Mae’r holl weithiau ar werth ac fe ellir eu prynu gyda chymorth y Cynllun Casglu.