Cipolwg 15

Cipolwg 15

Artistiaid Helfa Gelf yn y caffi
11 Mehefin - 30 Medi 2018

Mae gennym ddetholiad ardderchog arall o waith gan artistiaid o Ogledd Cymru yn y caffi y tymor hwn ym MOSTYN, mewn partneriaeth gyda’r Helfa Gelf Art Trail.

Sue Arney | Phil Green | Janet Roberts | Dorothy Taylor

Mae'r arddangosfa wedi'i guradu gan Barry Morris.

Mae’r arddangosfa yn cynnig cipolwg o dalentau Helfa Gelf, digwyddiad stiwdios agored mwyaf Cymru, a gynhelir ledled Siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i’n hymwelwyr weld peth o’r gwaith cyffrous ac amrywiol sy’n cael ei gynhyrchu yn yr ardal.

 

 

Mae’r holl weithiau ar werth ac fe ellir eu prynu gyda chymorth y Cynllun Casglu.