Cipolwg 17
Mae gennym ddetholiad ardderchog arall o waith gan artistiaid o Ogledd Cymru i fyny'r grisiau y tymor hwn ym MOSTYN, mewn partneriaeth gyda’r Helfa Gelf Art Trail.
Catherine Bailey / Elizabeth Bolloten / Jenny Ford / Eleri Jones / Nerys Jones / Lucy Elizabeth Jones / Dave Roberts
Mae'r arddangosfa wedi'i guradu gan Barry Morris. Mae’r arddangosfa yn cynnig cipolwg o dalentau Helfa Gelf, digwyddiad stiwdios agored mwyaf Cymru, a gynhelir ledled Siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i’n hymwelwyr weld peth o’r gwaith cyffrous ac amrywiol sy’n cael ei gynhyrchu yn yr ardal.
Mae’r holl weithiau ar werth ac fe ellir eu prynu gyda chymorth y Cynllun Casglu.