Cipolwg 18

Cipolwg 18

Artistiaid Helfa Gelf i fyny'r grisiau yn y caffi
5 Hydref - 26 Ionawr 2020

Mae gennym ddetholiad ardderchog arall o waith gan artistiaid o Ogledd Cymru i fyny'r grisiau y tymor hwn ym MOSTYN, mewn partneriaeth gyda’r Helfa Gelf Art Trail.

Deborah Albrow / Mark Albrow / Louise Edwards / Helen Howlett / Wini Jones Lewis / Verity Pulford

Mae'r arddangosfa wedi'i guradu gan Barry Morris. Mae’r arddangosfa yn cynnig cipolwg o dalentau Helfa Gelf, digwyddiad stiwdios agored mwyaf Cymru, a gynhelir ledled Siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, y Fflint a Wrecsam. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i’n hymwelwyr weld peth o’r gwaith cyffrous ac amrywiol sy’n cael ei gynhyrchu yn yr ardal.