D.Alun Evans

D.Alun Evans

Place over time
1 Chwefror - 23 Hydref 2020

Mae ein cyfres o arddangosfeydd sy'n dathlu gwneud printiau cyfoes yn Oriel 6 yn parhau gyda D. Alun Evans o Sir Gaer.

Mae ei waith creadigol yn canolbwyntio ar dirweddau adeiledig Cymru a gogledd orllewin Lloegr, ac mae’n cynnwys collagraff, monoteip, print sgrin a thorlun leinio, yn ogystal â lluniadu a phaentio mewn ystod o gyfryngau. Cafodd y printiau a ddangosir yma eu creu dros gyfnod o ddeng mlynedd yn y Ganolfan Argraffu Ranbarthol yn Wrecsam.

Maent yn cynnwys llawer a ddatblygwyd o ymweliadau yn ôl â chartref ei deulu yn Abergwaun, gyda'r gweithiau diweddaraf yn canolbwyntio ar 'lannau dinas' Glannau Mersi. Mae D. Alun Evans yn manteisio ar botensial y broses sgrin i gynhyrchu amrywiadau mewn lliw a haenu o'r un set o sgriniau, gan gynhyrchu cyfres o amrywiadau cyfyngedig mewn dull gwahanol i'r print 'argraffedig' arferol..

Prints are for sale framed or unframed, and the Collectorplan scheme allows you to spread the cost of your purchases over 12 months interest free.