Estella Scholes

Estella Scholes

Cylchoedd, Cerrig a Broc Môr
3 Chwefror - 3 Mehefin 2018

Mae ein cyfres o arddangosfeydd o waith unigolion sy’n gwneud printiau cyfoes yn parhau yn Oriel 6 ag Estella Scholes.

Mae llawer o ddeunyddiau cyfeiriol Estella yn eitemau y mae hi ei hun wedi’u gweld a’u casglu wrth grwydro glannau gogledd Cymru, yn enwedig Penrhyn Llŷn, lle mae olion hen orffennol diwydiannol i’w gweld. Mae darnau o hen lanfeydd, metel wedi rhydu a malurion eraill wedi’u gwneud gan ddyn i’w gweld o hyd rhwng y cerrig, ochr yn ochr â thrysorau eraill mwy cyfarwydd y traethau. Mae amwysedd ffurfiau naturiol a ffurfiau wedi’u creu gan ddyn, sydd wedi’u herydu gan y tywydd nes eu bod bron yn haniaethol, yn ennyn ei chwilfrydedd.

Mae gosodiadau byrhoedlog lliw, gwead a siâp yn ymddangos a diflannu’n ddiddiwedd yn y gofod trosiannol rhwng llanw a thrai. Mae’r argraffiadau byrhoedlog hyn yn aros yn y meddwl, i gael eu haniaethu drachefn a’u hailosod gan y cof.

Mae’r holl brintiadau ar werth wedi’u fframio neu heb eu fframio, ac mae’r cynllun Collectorplan yn eich galluogi chi i brynu darn unigryw o gelf a chrefft cyfoes dros gyfnod o 12 mis yn ddi-log.