Folded Forest

Folded Forest

O’r awyr uwchben at y twll islaw
2 Chwefror - 2 Mehefin 2019

Partneriaeth greadigol a gychwynnwyd yn 2016 rhwng Ruth Viqueira a Sarah Peel yw Folded Forest. Gyda’i gilydd, maen nhw’n dylunio ac yn gwneud printiau argraffiad cyfyngedig, nwyddau ar gyfer y tŷ a thecstilau sydd wedi cael eu hargraffu â sgrin yn eu stiwdio fechan yng Ngorllewin Sir Efrog.

Maen nhw’n cael eu hysbrydoli gan y byd naturiol; y coetiroedd, y rhostiroedd a’r traethau wrth ymyl eu cartref, yn ogystal â lleoedd ymhellach i ffwrdd, fel jynglau, yr Arctig rhewllyd neu ddyfnderoedd dwfn y moroedd. Mae eu gwaith yn cynnig cipolwg dychmygol ar yr amgylcheddau hyn a bywydau’r creaduriaid sy’n byw ynddyn nhw; gweithgaredd cudd yn tyrchu o dan ein traed neu ennyd fer yn diflannu ychydig y tu hwnt i’r gorwel.

Mae’r holl brintiadau ar werth wedi eu fframio neu beidio. Mae’r Cynllun Casglu yn eich galluogi I brynu darnau o gelf gyfoes a chrefft unigryw dros gyfnod o 12 mis yn ddi-log.